Achos PC Harper: Penaethiaid heddluoedd Cymru'n galw am atal rhyddhau dau garcharor
Mae penaethiaid lluoedd heddlu Cymru wedi galw ar Andy Burnham i ystyried "pob opsiwn cyfreithlon" i sicrhau na fydd y dynion a laddodd PC Andrew Harper yn cael eu rhyddhau'n gynnar o'r carchar.
Mae arweinwyr pedwar llu Cymru ymhlith 50 prif gwnstabl a chomisiynwyr heddlu ar draws Prydain sydd wedi arwyddo llythyr agored at brif weinidog y DU.
Bu farw'r Cwnstabl Harper, oedd yn 28 oed, ar ôl cael ei lusgo gan gar i lawr lôn wledig wrth ymateb i ladrad beiciau cwad yn ne-ddwyrain Lloegr yn 2019.
Yn 2020, cafodd tri dyn eu caracharu am ddynladdiad yr heddwas.
Bydd dau ohonyn nhw, Jessie Cole ac Albert Bowers, yn gymwys i gael eu rhyddhau ym mis Ionawr o dan y cynllun i ryddhau troseddwyr yn gynnar, ar ôl treulio hanner eu dedfryd o 13 blynedd dan glo.
Fe ddywedodd Mr Burnham yn gynharach yr wythnos hon ei fod yn "gynyddol hyderus" na fydd y ddau yn cael eu gadael yn rhydd wedi iddo ofyn i'r ysgrifennydd cyfiawnder i weld pa gamau sy'n bosib yn achos yr heddwas, yn ogystal ag adolygu'r cynllun yn ehangach.
Yn eu llythyr at y prif weinidog, mae'r penaethiaid heddlu yn croesawu "ymyrraeth" y llywodraeth ond yn galw ar Mr Burnham i archwilio "pob ffordd gyfreithlon bosib" i atal rhyddhau Cole a Bowers, gan ystyried yr effaith ar heddweision.
"Mae teimladau cryf ar draws y byd heddlu ynghylch y posibilrwydd y gallai'r rheiny sy'n gyfrifol am farwolaeth PC Andrew Harper elwa o drefniadau a allai arwain at eu rhyddhau yn sylweddol gynt na'r disgwyl," meddai'r llythyr.
"Mae swyddogion a staff yn deall bod yn rhaid gweithredu'r gyfraith fel y mae. Ond maent yn cwestiynu pa fath o neges mae hyn yn ei yrru ynghylch gwerth eu gwasanaeth a'u haberth pan maent yn rhoi eu hunain mewn perygl i warchod eraill."
Galwad ehangach
Fe ddaeth y Ddeddf Dedfrydu newydd i rym yn gynharach eleni, gan gyflwyno'r cynllun i ryddhau troseddwyr yn gynnar er mwyn tynnu pwysau oddi ar garchardai. Mae sawl math o droseddwr wedi eu heithrio o'r cynllun, ond nid Cole a Bowers.
Cyn pasio'r ddeddf, byddai'r ddau wedi gorfod treulio dwy ran o dair o'u dedfrydau dan glo, ond yn sgil y newidiadau, mae'n bosib y byddan nhw'n gallu dod allan wedi hanner y cyfnod penodedig.
Mae'r cynllun, fydd yn arwain at ryddhau tua 5,000 o garcharorion, wedi ennyn storm wleidyddol a gwrthwynebiad pybyr gan deuluoedd rhai dioddefwyr.
Yn ogystal â galw ar Burnham i ystyried achos PC Harper, dywedodd y penaethiaid heddlu y dylai'r llywodraeth sicrhau bod natur y drosedd yn cael mwy o ystyriaeth cyn rhyddhau unrhyw garcharor, ochr yn ochr â llais dioddefwyr a'u teuluoedd.
"Yn ail, galwn ar y llywodraeth i gyflwyno cam diogelu ychwanegol mewn achosion sy'n ymwneud â'r troseddwyr mwyaf difrifol p'run bynnag y bydd newidiadau i drefniadau rhyddhau carcharorion yn cael eu hystyried yn y dyfodol," meddai'r llythyr.
"Yn dryddd, mae'n rhaid i ddioddefwyr a theuluoedd sydd wedi dioddef colled gael eu hystyried yn iawn p'run bynnag mae newidiadau sylweddol i drefniadau dedfrydu neu ryddhau. Dylai bod ystyriaeth o effaith newidiadau polisi rhyddhau carcharorion ar ddioddefwyr, diogelwch cyhoeddus, yr heddlu a'r hyder yn y system gyfiawnder."
Wrth ymateb i'r llythyr, cyfeiriodd tîm y Prif Weinidog yn 10 Stryd Downing at ei addewid blaenorol i wneud "popeth o fewn fy ngallu" i atal rhyddhau Cole a Bowers.