Daniel Kinahan dan glo wedi gwrandawiad llys yn Nulyn

Kinahan

Mae dyn sydd wedi’i gyhuddo o fod yn bennaeth grŵp troseddol wedi ymddangos o flaen llys yn Iwerddon ar ôl cael ei estraddodi o Dubai.

Roedd y Gwyddel Daniel Kinahan yn un o’r dynion oedd yn destun un o'r ymgyrchoedd chwilio mwyaf erioed gan yr awdurdodau wedi iddo adael ei famwlad.

Mae wedi cael ei gyhuddo o gyfarwyddo gweithgareddau sefydliad troseddol rhwng 18 Hydref 2015 a 6 Ebrill 2017.

Fe gyrhaeddodd awyren Dublin am 18:00 nos Sul gyda Kinahan, sy’n 49 oed, ar ei bwrdd. Cafodd ei arestio a’i gyhuddo ar ôl i’r awyren lanio.

Fe wnaeth y gwrandawiad yn y Llys Troseddol Arbennig, oedd heb reithgor, bara am 13 munud. 

Wedi hynny, cafodd Kinahan ei gadw yn y ddalfa tan ei wrandawiad llys nesaf ar 5 Hydref.

Doedd ganddo ddim cynrychiolydd cyfreithiol yn ystod y gwrandawiad. Dywedodd nad oedd wedi cael amser i drefnu un.

Cafodd Kinahan ei arestio yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig (UAE) ym mis Ebrill. 

Fe wnaeth apelio yn erbyn y gorchymyn i’w estraddodi dros y misoedd diwethaf, ond aflwyddiannus fuodd ei ymdrechion.

Cyffuriau

Yn y gorffennol, mae’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol wedi dweud bod cartel Kinahan wedi bod yn gyfrifol am fewnforio tunelli o gyffuriau a drylliau ledled y byd. 

Mae hefyd wedi’i gysylltu'n honedig â mwy na 12 o lofruddiaethau yn ymwneud â gangiau troseddol.

Mae Adran Trysorlys yr Unol Daleithiau wedi disgrifio cartel Kinahan ar un adeg fel un o’r rhai mwyaf peryglus yn y byd.

Mae wedi cymharu’r gang yn y gorffennol â sefydliadau troseddol fel y Camorra yn yr Eidal, Los Zetas ym Mecsico a’r Yakuza yn Japan.

Yn ôl cyn-Gomisiynydd y Garda, Drew Harris, y gred yw bod y gang wedi gwneud mwy nag €1bn (£857,870,000) ledled y byd o’i weithgareddau troseddol.

Mae gan yr Emiraethau Arabaidd Unedig ac Iwerddon gytundeb estraddodi. 

Ddydd Sul, cyhoeddodd gweinidogion cyfiawnder y ddwy wlad ddatganiad ar y cyd yn croesawu estraddodi Kinahan.

Disgrifiodd Gweinidog Cyfiawnder Iwerddon, Jim O’Callaghan, yr estraddodi fel “carreg filltir o ran cydweithrediad barnwrol rhwng y ddwy wlad”.

Dywedodd Abdullah bin Sultan bin Awad Al Nuaimi fod yr estraddodi yn tanlinellu “ein hymrwymiad cadarn i gefnogi ymdrechion byd-eang i fynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol trawswladol”.

Llun: PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.