Llwybr teithio llesol newydd wedi agor ar Ynys Môn
Mae llwybr teithio llesol newydd gwerth £1.4 miliwn sy’n cysylltu Niwbwrch a Malltraeth ar Ynys Môn bellach wedi’i gwblhau.
Bydd y llwybr yn darparu cysylltiad sy'n cael ei ddisgrifio fel un "mwy diogel, heb draffig, i gerddwyr a beicwyr" rhwng Cob Malltraeth a Niwbwrch.
Mae’r cynllun, sydd wedi’i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol gan y llywodraeth ac sy’n cael ei reoli gan Drafnidiaeth Cymru, yn cynnwys 1.25km o lwybr sy'n cael ei rannu rhwng ardaloedd Maes Parcio Pen Cob a chyrion Niwbwrch.
Mae mesurau i arafu traffig hefyd wedi’u cyflwyno ym mhentref Niwbwrch, ynghyd â phedwar llecyn ar hyd y Cob gyda’r nod o wella diogelwch a lleihau gwrthdaro rhwng gwahanol ddefnyddwyr ffordd.
Yn ôl Cyngor Sir Ynys Môn, bydd y llwybr yn gwella cysylltiadau â chanol Niwbwrch ac Ysgol Santes Dwynwen, yn ogystal â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.
Mae’n rhan o uchelgais ehangach y cyngor i ymestyn Lôn Las Cefni a datblygu Glasffordd Môn, sef coridor gwyrdd ar draws yr ynys fydd yn cysylltu cymunedau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, deilydd portffolio Priffyrdd, Gwastraff a Newid Hinsawdd, fod y cyngor yn “falch iawn” o weld y gwaith wedi’i gwblhau.
“Mae’n enghraifft wych o ddarparu isadeiledd teithio llesol mewn ardal wledig,” meddai.
“Mae’n darparu gwell cysylltiad rhwng Malltraeth a Niwbwrch tra’n cefnogi ein dyheadau ehangach o ran llesiant, cynaliadwyedd a gwella dewisiadau teithio o ddydd i ddydd.”
Gan fod y llwybr yn mynd drwy ardaloedd amgylcheddol sensitif, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, bu’n rhaid gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i leihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Mae hynny wedi cynnwys gwaith i adfer cynefinoedd ym Mhwll Traeth Bach, mesurau ecolegol yn ystod y gwaith adeiladu a monitro parhaus o fioamrywiaeth yr ardal.