Criw sy'n gwneud Her y Tri Chopa er cof am Mathew Hardy wedi cwblhau'r mynydd cyntaf

Cronfa Mathew Hardy

Mae criw sy'n gwneud Her y Tri Chopa er cof am Mathew Hardy a fu farw mewn gwrthdrawiad ym mis Rhagfyr y llynedd wedi cwblhau'r mynydd cyntaf, sef Ben Nevis yn Yr Alban.

Bu farw Mathew Hardy, 34 oed o Bwllheli, mewn gwrthdrawiad ger Porthmadog ar 20 Rhagfyr.

Mae John Pugh, Arwel Thomas, Deio Brunelli, Steve Jones, Rhys Roberts a Dafydd Anwyl wedi sefydlu cronfa er cof am Mathew, ac yr wythnos hon, mae'r chwech yn gwneud her y Tri Chopa.

Mae'r criw, yn ogystal â theulu a ffrindiau Mathew, yn cerdded mynyddoedd Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa, gan feicio rhwng y tri mynydd dros gyfnod o wythnos — taith o dros 500 milltir.

Mae'r criw yn codi arian at sawl elusen wahanol, gan gynnwys un sydd yn cefnogi pobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol neu wedi colli rhywun mewn gwrthdrawiad ffordd, ac un sy’n cefnogi dynion sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos.

Wrth siarad â Newyddion S4C ym mis Mehefin, dywedodd Arwel Thomas: "Ma' sefydlu'r gronfa wedi bod yn andros o help i ni i ddod at ein gilydd ar ôl colli ffrind mor annwyl. 
 
"Dwi'n teimlo'n prowd cael gwisgo'r dillad ma efo enw Mathew arna fo, ma'n golygu gymaint i fi, dwi wastad yn chwilio am y jumper i gael gwisgo hi. Ma'n neud i chi deimlo'n agos at ein gilydd, ata fo.
 
"I fi, dwi jyst yn teimlo bod o mor bwysig ag yn falch o gael cario enw M J Hardy."
 
Ychwanegodd Deio Brunelli: "O’dd o’n berson arbennig iawn i ni gyd fel criw o ffrindiau, ma’n bechod bod rhywbeth fel hyn wedi gorfod digwydd i ni orfod dod at ein gilydd i ddangos gymaint mae o’n feddwl i ni ‘lly, a faint o bwysig oedd o i’n bywydau ni."
 
"I'r chwech ohona ni, Mathew oedd y glud. ‘Dan ni’n trio neud hyn idda fo, yn ei enw fo, i’w deulu fo, partner fo, plentyn fo," meddai Steve Jones. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.