Ton arall o wres i daro Cymru'r wythnos hon
Fe fydd ton arall o wres yn taro Cymru yr wythnos hon, gyda disgwyl i dymereddau gyrraedd o leiaf 30C.
Dyma'r bumed ton wres i daro'r DU dros y misoedd diwethaf.
Yn ôl y rhagolygon, fe fydd dydd Llun ychydig yn llai poeth, ond mae disgwyl i dymereddau godi wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen, gyda disgwyl i rannau o Loegr brofi tymereddau o 36C erbyn ddydd Iau.
Mae swyddogion iechyd wedi rhybuddio am y peryglon wrth gymryd rhai meddyginiaethau mewn tywydd poeth oherwydd y gallant ei gwneud hi'n anoddach i'r corff aros wedi ei hydradu, rheoleiddio tymheredd neu ymdopi gydag gwres yr haul.
Mae'r tywydd eithafol dros yr haf eleni wedi cynnwys dwy don wres sydd wedi torri record ym mis Mai a Mehefin a arweiniodd at fwy na 2,800 o farwolaethau ychwanegol.
Cafodd dwy don wres arall eu cofnodi ym mis Gorffennaf, sef y mis sychaf ar gofnod yng Nghymru a Lloegr, gan arwain at nifer o danau gwyllt ar draws y wlad.
Ddiwedd mis Gorffennaf, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymestyn statws sychder i Gymru gyfan wedi cyfnod hir o dywydd poeth a thanau gwyllt.
Daeth y cyhoeddiad wedi i CNC osod Gogledd Gwynedd, Ynys Môn, De Gwynedd, Afon Dyfrdwy, Clwyd a'r Hafren Uchaf dan statws sychder ar 23 Gorffennaf.
Dywedodd CNC fod ystadegau'n dangos fod Cymru wedi derbyn dim ond 8% o gyfartaledd y glawiad hirdymor ym mis Gorffennaf.