Dafydd Owain yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2026

Dafydd Owain
Mae Dafydd Owain wedi ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2026 am ei albwm, ‘Ymarfer Fyw’.
 
Dyma ail albwm y cerddor o ardal Caernarfon, a gafodd ei ryddhau ym mis Hydref 2025. 
 
Daw Dafydd Owain i'r brig wedi i 10 o artistiaid a bandiau gael eu cynnwys ar y rhestr fer eleni, gan gynnwys Ani Glass, Buddug, Casi, Ciwb, Eve Goodman a SERA, Ffenest, Griff Lynch, Lafant, Mari Mathias a Sonant.
 
Derbyniodd yr enillydd dlws a gomisiynwyd yn arbennig.
 
Mae'r wobr, sy'n cael ei threfnu gan yr Eisteddfod Genedlaethol a BBC Radio Cymru, yn dathlu'r cymysgedd o gerddoriaeth Gymraeg a gafodd ei recordio'n ystod y flwyddyn.
 
Bu panel o feirniaid o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff recordiau, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.  
 
Y beirniaid eleni oedd Lewys Meredydd, Eluned Haf, Alun Cob, Molly Palmer, Huw Bebb a Cadi Glwys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.