Carcharu dau frawd am achosi marwolaeth Rhys Jenkins ym Mhowys

Abubakr Yusaf ac Umar Yusaf
Abubakr Yusaf ac Umar Yusaf

Mae dau frawd wedi eu carcharu am achosi marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ym mis Tachwedd 2024 tra'r oeddynt yn rasio yn erbyn ei gilydd ar y ffordd adref i Fanceinion o Aberystwyth.

Bu farw Rhys Jenkins ac fe ddioddefodd ei fab naw oed anafiadau difrifol pan gafodd eu car Toyota ei daro gan gar BMW Abubakr Yusaf.

Roedd Yusaf newydd yrru o amgylch tro ar ochr anghywir y ffordd eiliadau cyn y gwrthdrawiad.

Wedi i yrywr eraill aros i gynnig cymorth i Mr Jenkins a'i fab, fe wnaeth y ddau frawd ffoi yn Audi S4 Umar.

Bu farw Mr Jenkins o'i anafiadau yn y fan a'r lle.

Cafodd ei fab naw oed, a oedd yn deithiwr yn y car, ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd, lle treuliodd 10 diwrnod yn cael triniaeth am ei anafiadau.

Image
Rhys Jenkins
Rhys Jenkins

Dedfrydau

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener cafodd Abubakr Yusaf, 31 oed, o Ffordd Esmond, Manceinion, ei garcharu am 14 o flynyddoedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth pan nad oedd ganddo yswiriant.

Cafodd ei frawd Umar Yusaf, 35 oed, o'r un cyfeiriad ym Manceinion, ei garcharu am ddwy flynedd a naw mis ar ôl cael ei ganfod yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddi-ofal ac achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddi-ofal.

Cafwyd y ddau yn euog yn dilyn achos llys wyth diwrnod, lle clywodd y llys fod y ddau wedi bod yn rasio'n beryglus cyn y gwrthdrawiad.

Dywedodd llygad-dystion eu bod wedi gweld y brodyr yn goddiweddyd mewn modd hynod o beryglus ar y ffordd, gan yrru'n rhy gyflym, gyrru'n rhy agos at y cerbyd o'u blaenau, a fflachio eu goleuadau at geir eraill mewn ymgais i fynd heibio.

Ychydig ar ôl i'r ddau frawd fynd o amgylch tro ar y ffordd ar yr ochr anghywir, tarodd BMW Abubakr gar Toyota oedd yn cael ei yrru gan Rhys Jenkins yn Belan.

O fewn 40 munud i'r gwrthdrawiad, gyrrodd Umar Yusaf, 34 oed, yn ôl i'r lleoliad a dweud wrth Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu fod y person oedd yn gyfrifol gydag ef.

'Colled drasig'

Dywedodd y Sarjant Sara John o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu Dyfed Powys: “Ni all y dedfrydau a gyhoeddwyd heddiw wrthdroi’r golled drasig a gafwyd gan deulu Rhys, sydd wedi dangos gwydnwch rhyfeddol drwy gydol yr ymchwiliad hwn a’r broses lys.

“Rwy’n gobeithio bod canlyniad y dydd yn rhoi rhywfaint o ymdeimlad o derfyniad iddynt wrth iddynt ddechrau symud ymlaen â’u bywydau, sydd wedi newid am byth.

“Roedd gweithredoedd Abubakr ac Umar Yusaf y diwrnod hwnnw yn drychinebus. Mae eu penderfyniad i yrru yn y ffordd y gwnaethant yn dangos eu diffyg parch llwyr tuag at ddefnyddwyr eraill y ffordd.

“Mae’r ddedfrydau heddiw yn nodi diwedd ymchwiliad cymhleth, a hoffwn ddiolch i’r holl dystion a gefnogodd yr achos ac i’r tîm ymchwilio diwyd a weithiodd i ddod ag Abubakr ac Umar Yusaf gerbron y llys.

“Mae fy meddyliau olaf a’m diolch diffuant yn parhau gyda theulu ac anwyliaid Rhys, sydd wedi dangos dewrder eithriadol drwy gydol y cyfnod trasig hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.