'Dim modd' i’r Eisteddfod Genedlaethol osgoi Deallusrwydd Artiffisial

'Dim modd' i’r Eisteddfod Genedlaethol osgoi Deallusrwydd Artiffisial

Nid oes modd i'r Eisteddfod osgoi dylanwad Deallusrwydd Artiffisial (AI), yn ôl arbenigwyr yn y maes.

Dywedodd un arbenigwr nad oedd yn "meddwl bod modd gwarchod yr Eisteddfod o ddefnydd AI".

Mae rheolau’r Eisteddfod yn nodi nad oes modd i gystadleuwyr ddefnyddio AI i greu cyfansoddiadau ‘oni nodir yn wahanol'.

Image
Yr Athro Cynog Prys AI Steddfod

Cadeiriwyd panel gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ddefnydd AI gan Dr Cynog Prys, Uwch Ddarlithydd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dr Prys: “Dwi’m yn meddwl bod modd gwarchod yr Eisteddfod o ddefnydd AI. 

"Ma’ AI yn mynd i fod yn ddarn o holl fyd technolegol ‘da’n ni’n eu defnyddio.”

“Dwi ddim yn gwybod os oes ‘na fodd i wahardd hwn [AI], ond dwi ddim yn gwybod os ddylid cofleudio fo yn yr un ffordd ond i bobl fod yn agored o ran pa ddefnydd mae’n nhw wedi ei wneud o’r dechnoleg yma.”

Ychwanegodd: "Mae'n anodd iawn profi os mae rhywun wedi defnyddio AI a dwi’n meddi dy fod ti’n gallu ei ddefnyddio fo mewn ffordd glyfar iawn.

“Er enghraifft bo chdi’n trio am y Goron neu’r Gadair, ‘sa chi’n gallu defnyddio’r dechnoleg yma am syniadau a ‘sa neb byth yn gallu profi ‘sa chi ‘di neud.”

Datblygiad AI yn yr iaith Gymraeg

Image
Dewi Bryn Jones AI Steddfod

Mae Dewi Bryn Jones o Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor yn credu bod “’na ffordd o ddefnyddio’r AI yma mewn ffordd newydd".

Wrth gyfeirio at allu AI gyda’r iaith Gymraeg, dywedodd ei fod wedi “datblygu yn aruthrol o gyflym".

“Ers 2022, mae o [AI iaith Gymraeg] wedi datblygu yn aruthrol o gyflym – mi ymddangosodd o gyntaf o nunlle hefyd, heb unrhywun yn gwybod, wedi cynllunio neu ariannu unrhyw beth yn ei gylch,"meddai.

Ychwanegodd fod “pobl wedi arbrofi ‘tybed ydy hwn yn gallu siarad Cymraeg a oedd, mi oedd, felly mae pobl wedi bod yn arbrofi a wedi bod yn gwerthuso modelau ers hynny.

“A mae’n nhw’n gweithio’n well os ‘da chi’n sgwrsio efo nhw neu gofyn iddyn nhw gwestiynau yn y Gymraeg yn y dechrau, nid cychwyn yn Saesneg ac yna dweud ‘oh I’d like this answer in Welsh please.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.