Tanau gwyllt: Criwiau’n ymladd tân yn y de

Tân Llanwonno

Mae criwiau yn ymladd tanau gwyllt ar ben Mynydd Llanwynno yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fore dydd Sul bod mwg o’r tanau, sydd uwchben Glynrhedynog, yn effeithio ar ardaloedd Porth, Tonypandy a Phontypridd.

Mae trigolion wedi cael cyngor i gau eu drysau a’u ffenestri.

Mae’r gwasanaeth wedi diolch i bobl leol am eu galwadau ynglŷn â’r tân.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd yr Aelod Seneddol Chris Bryant: "Cadwch draw o ffordd mynydd Llanwynno tra bod y gwasanaeth tân yn ceisio mynd i'r afael â'r tân.

"Diolch i bob diffoddwr tân a gweithiwr gwasanaeth brys a oedd yn rhan o'r gwaith, rydym yn hynod ffodus i gael criwiau mor ymroddedig sydd bob amser yn barod i ateb yr alwad."

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhoi cymorth gyda’r digwyddiad.

Llun: Chris Bryant AS

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.