Trump wedi canslo ymosodiadau ar Iran ar yr amod bod modd creu cytundeb 'yn gyflym'

Donald Trump

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi dweud ei fod wedi canslo ymosodiadau ar Iran ar yr amod bod cytundeb yn cael ei gyrraedd “yn gyflym” gyda’r wlad.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Trump bod Iran a gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol wedi gofyn iddo "ohirio" unrhyw ymosodiad gan fod "fframwaith" cytundeb wedi'i gytuno.

Ychwanegodd Mr Trump y byddai hyn yn cynnwys ailagor Culfor Hormuz ac yn rhoi diwedd ar fygythiad niwclear Iran.

Daeth ei sylwadau ar ôl adroddiadau yn y cyfryngau yn yr Unol Daleithiau yn awgrymu bod Washington wedi bod yn cynllunio ymosodiadau newydd a dwys ar Iran dros y penwythnos.

Yn gynharach ddydd Sadwrn, roedd Tehran wedi cyhuddo'r Unol Daleithiau o waethygu tensiynau, gan ddweud y byddai unrhyw wladwriaeth ranbarthol sy'n cydweithredu â Washington yn cael ei "gorchuddio gan fflamau rhyfel".

Roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi annog Americanwyr ledled y Dwyrain Canol i fod yn wyliadwrus ac yn barod i adael "pe bai gwaethygu ar y sefyllfa" yn y rhanbarth.

Dywedodd Trump ymhellach yn ei neges fod yr Unol Daleithiau yn "barod i weithredu yn erbyn Gweriniaeth Islamaidd Iran, ar lefelau o rym a gallu milwrol na welwyd eu tebyg ers yr Ail Ryfel Byd".

Dywedodd y byddai canslo'r ymosodiad "er budd y byd yn y dyfodol ac, yn yr un modd, er budd goroesiad Iran lwyddiannus a ffyniannus".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.