Enwebiad am wobr dewrder i ddwy nyrs ar ôl achub bywyd plentyn bach

Kelsey Pirie a Emma Brown

Mae dwy nyrs wedi cael eu henwebu am wobr dewrder ar ôl gadael priodas i achub bywyd plentyn tair oed a gafodd ei ddarganfod yn anymwybodol mewn pwll.

Roedd Kelsey Pirie ac Emma Brown, sy'n gweithio yn Ysbyty Cimla yng Nghastell-nedd, ymhlith gwesteion priodas yn Nhŷ Bryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr pan glywsant weiddi am help yn y parc gwledig cyfagos.

Gan wisgo'u dillad priodas o hyd, tynnodd y ddwy eu sodlau uchel a rhedeg i'r lleoliad. 

Yna, fe wnaethon nhw gyfarfod â Stefan Johnson, a oedd eisoes wedi tynnu'r bachgen o'r pwll ac wedi dechrau rhoi CPR iddo.

Cymerodd y ddwy nyrs yr awenau ar unwaith, ac er mai nyrsys gofal oedolion ydyn nhw ac nad oedd ganddyn nhw brofiad blaenorol o roi CPR i blant, fe dreulion nhw bum munud yn ceisio adfywio'r (resuscitate) plentyn, nad oedd â churiad calon ar y pryd.

Image
Kelsey Price ac Emma Brown
Kelsey Pirie ac Emma Brown

Dywedodd Emma Brown, 38 oed: "Dechreuodd rhywun weiddi am help, felly fe redon ni tuag atyn nhw gan daflu ein hesgidiau i ffwrdd ar y ffordd, heb wybod yn iawn beth oedd wedi digwydd.

"Pan oedden ni tua hanner ffordd yno, sylweddolon ni mai bachgen bach oedd yno."

Dywedodd Kelsey Pirie: "Doedden ni ddim yn gwybod pa mor hir roedd e wedi bod yn y dŵr, ond roedd yn anymwybodol ac nid oedd unrhyw arwyddion o fywyd. Doedd ganddo ddim pwls.

"Fe wnes i ddechrau gwasgu'r frest ac fe ddechreuodd Emma roi anadliadau achub."

Ychwanegodd Emma: "Roedd hi'n anodd oherwydd faint o ddŵr oedd yno, ond ar ôl tua phum munud fe ddechreuodd anadlu."

Erbyn hynny roedd criwiau ambiwlans ac Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyrraedd, a throsglwyddodd y ddwy nyrs ofal y plentyn i'r parafeddygon cyn dychwelyd i'r briodas.

Dywedodd Kelsey: "Roedd pob un o'r gwesteion wedi bod yn gwylio'r cyfan yn digwydd. 

"Roedd y briodferch wedi gweld rhywfaint o'r digwyddiad o'r ystafell briodasol, er nad oedd hi'n gwybod yn union beth oedd yn digwydd."

Ychwanegodd Emma: "Doedden ni ddim wir yn cael cyfle i brosesu'r hyn oedd wedi digwydd – roedd yn rhaid i ni ddychwelyd i'r briodas.

"Rwy'n ddiolchgar iawn bod y canlyniad yn un cadarnhaol, oherwydd pe bai wedi bod yn wahanol, mae'n debyg na fyddai'r briodas wedi mynd yn ei blaen."

Cafodd y plentyn tair oed, sy'n dod o Gasnewydd, ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr sefydlog, ac mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.

Yn y cyfamser, mae Emma Brown, Kelsey Pirie a Stefan Johnson, a dynnodd y plentyn o'r dŵr gyntaf, wedi cael eu henwebu gan Heddlu De Cymru am wobr dewrder y Royal Humane Society am eu gweithredoedd wrth achub bywyd y plentyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.