Dau berson arall wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio yn y Rhyl
Mae dau berson arall wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i ddyn arall ddioddef anafiadau difrifol yn y Rhyl.
Bellach, mae pedwar person wedi cael eu cyhuddo ar ôl i'r dyn ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad ar Stryd y Baddon yn y dref ar 23 Gorffennaf.
Cafodd Rachel Marie Grant, 36 oed, o'r Rhyl, a Ben Ward, 36 oed, o'r Rhyl, eu cyhuddo o geisio llofruddio.
Mae'r ddau yn ymddangos yn y llys ddydd Gwener.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd Gareth Marc Griffith, 32 oed, o'r Rhyl, a bachgen 17 oed, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, eu cyhuddo o geisio llofruddio.
Mae tri pherson arall wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Dywedodd yr heddlu fod eu hymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau.
Maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â lluniau o gamerâu cylch cyfyng neu luniau dashcam ar Stryd yr Eglwys, Stryd y Baddon neu Ffordd Russell rhwng 18:30 a 19:30 ar 23 Gorffennaf i gysylltu â nhw.
Fe allai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101 neu ar eu gwefan, a dyfynnu'r cyfeirnod 26000599433.