Cymru Premier: Treffynnon yn dychwelyd i'r haen uchaf ar ôl 28 o flynyddoedd
Mae’n ddechrau tymor newydd ac yn ddechrau cyfnod newydd cyffrous i’r Cymru Premier gyda’r gynghrair yn cael ei ehangu i 16 tîm yn dilyn 16 o flynyddoedd o dan y fformat blaenorol o 12 tîm.
Cyn y newid diwethaf yn 2010, roedd Uwch Gynghrair Cymru wedi cael ei chynnal gyda niferoedd rhwng 17-21 o glybiau yn ystod y tymhorau cyntaf ar ôl ffurfio’r gynghrair yn 1992, ond hwn fydd y tymor cyntaf erioed gydag 16 o dimau.
Er y newidiadau sylweddol, mae’r Gymdeithas Bêl-droed wedi penderfynu cadw sawl elfen o’r fformat blaenorol, sy’n cynnwys hollti’r gynghrair, a chynnal gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
O’r chwe chlwb sydd wedi esgyn dros yr haf, mae’r tri o’r de yn paratoi am eu tymor cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair (Cambrian, Trefelin, Rhydaman), tra bod Llandudno, Airbus UK a Treffynnon yn dychwelyd o Gynghrair y Gogledd.
Roedd hi’n ymgyrch gymysglyd i Hwlffordd y tymor diwethaf gyda’r clwb yn gorffen yn 7fed ar ôl llwyddo i orffen yn 3ydd a chyrraedd Ewrop y flwyddyn flaenorol.
Daeth y tymor i ben ar nodyn rhwystredig wrth i’r Adar Gleision golli o 2-0 yn erbyn Pen-y-bont yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.
Ond mae hwn yn gyfnod cyffrous i Hwlffordd sydd wedi dechrau system hybrid ar gyfer y tymor newydd gyda chytundebau llawn amser ar gael i’w chwaraewyr ifanc.
Mae Hwlffordd wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn bechgyn Brychdyn ond hon fydd yr ornest gyntaf rhwng y clybiau ers Ebrill 2023.