Llifogydd Gwaelod-y-garth: Pobol wedi eu symud o 13 eiddo a 'difrod sylweddol' i ffyrdd
Llifogydd Gwaelod-y-garth: Pobol wedi eu symud o 13 eiddo a 'difrod sylweddol' i ffyrdd
Mae 15 eiddo wedi’u heffeithio gan lifogydd yng Ngwaelod-y-garth ger Caerdydd.
Cafodd trigolion 13 eiddo eu symud o’u cartrefi gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ddydd Iau.
Trefnwyd llety i un teulu dros nos, ac mae swyddogion tai yn cefnogi teulu arall ddydd Gwener. Mae’r teuluoedd eraill wedi gwneud eu trefniadau eu hunain.
Mae Cyngor Caerdydd yn dweud bod difrod sylweddol wedi’i achosi i ffyrdd ac eiddo yn yr ardal.
Daeth adroddiadau am y llifogydd ar ôl digwyddiad yng Nghwarel Ffynnon Taf, sy’n cael ei rhedeg gan Breedon Group.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Rydym yn ymwybodol o ddigwyddiad yn Chwarel Ffynnon Taf brynhawn Iau.
“Mae ein timau yn gweithio’n agos gyda’r awdurdodau perthnasol tra’n gweithio â’r gymuned leol wrth i ni ymateb i’r sefyllfa.
“Ein blaenoriaeth yw cefnogi’r ymateb, ac nid ydyn ni mewn sefyllfa i ddarparu sylw pellach ar hyn o bryd.”
Roedd nam ar bibell ddŵr yn yr ardal wedi’i nodi ar wefan Dŵr Cymru yn gynharach ddydd Iau, ond dywedodd y cwmni nad oedd hynny’n gyfrifol am y llifogydd.
‘Roedd yn edrych fel tswnami’
Mae cartref Debi Bode ymhlith y rhai gafodd eu difrodi.
Wrth ddangos maint y difrod i Newyddion S4C, dywedodd: “Gwelais i rywbeth oedd yn edrych fel tswnami.
“Roedd y bryn a’r ffordd fel afon frown yn dod i lawr, ac roedd y dŵr yn llifo ar draws y cae y tu ôl i ni.
“Doedd dim byd y gallen ni ei wneud. Roedd yn dod i mewn drwy’r drysau cefn ac roedd modd gweld ar y ffens pa mor uchel oedd y dŵr.”
Dywedodd fod lloriau’r tŷ a rhannau o’r gegin bellach angen eu tynnu oherwydd y difrod.
“Mae’r paneli yn y gegin wedi amsugno’r dŵr ac mae’n dal oddi tan y lloriau.
“Roedd y gwaith rendro newydd gael ei orffen bythefnos yn ôl, ac roedden ni wedi gwneud yr ardd gyfan yr haf yma.”Mae Heol Goch rhwng Gwaelod-y-garth a Phentyrch ar gau, yn ogystal â’r Brif Ffordd y tu hwnt i South Glade.
Mae’r Brif Ffordd yn parhau ar agor o gylchfan yr A470 a Heol Tŷ Nant cyn belled â South Glade. Mae hyn er mwyn caniatáu mynediad i drigolion, busnesau a’r practis milfeddygol sydd ar agor 24 awr ar Ystâd Ddiwydiannol Gwaelod-y-garth.
Mae mwd, silt a malurion yn rhwystro mynediad, ac mae pryderon am gyflwr y ffyrdd a’r llethrau cyfagos.
Mae timau priffyrdd a glanhau yn symud malurion lle mae’n ddiogel gwneud hynny.
Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Chris Weaver: “Ein blaenoriaeth o hyd yw diogelwch a lles y trigolion sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd hyn.
“Mae difrod sylweddol wedi’i achosi i’r ffyrdd, ac mae’n hanfodol bod yr ardaloedd hyn yn aros ar gau nes eu bod yn ddiogel.”
Pryderon am lygredd
Mae’r cyhoedd yn cael eu cynghori i beidio â mynd i gyrsiau dŵr yn yr ardal na gadael i’w cŵn nofio ynddynt oherwydd y posibilrwydd o lygredd.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn ymwybodol o’r newid i liw yr Afon Taf o ganlyniad i’r digwyddiad hwn.
“Mae ein swyddogion ar y safle i asesu’r effeithiau amgylcheddol, ac maent yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys i roi cyngor ar sut i leihau unrhyw risg pellach o lygredd i gyrsiau dŵr yn yr ardal.
“Rydym yn ymwybodol o ddifrod sylweddol i lwybr cyhoeddus trwy’r coetir yn yr ardal hon o ganlyniad i’r digwyddiad. Rydym yn annog pobl i osgoi’r ardal.”
Ymchwiliad amlasiantaeth
Dywedodd Prif Weinidog Cymru: “Rwy’n meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad difrifol yng Ngwaelod-y-garth.
“Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi grŵp amlasiantaeth i helpu i gydlynu’r gwaith o gefnogi trigolion, cadw pobl yn ddiogel, a deall yn union beth ddigwyddodd.”
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: “Bydd yr awdurdodau perthnasol nawr yn ymchwilio i’r digwyddiad, i ddeall yn union beth ddigwyddodd, felly ni fyddai’n briodol i ni wneud sylwadau pellach ar hyn o bryd.”