Cyhuddo llofrudd Southport o ymosod ar weithwyr carchar
Mae llofrudd Southport, Axel Rudakubana, wedi ei gyhuddo o ymosod ar weithwyr carchar yn Belmarsh yn 2025, meddai Heddlu’r Met.
Cafodd ei gyhuddo ddydd Mawrth, 28 Gorffennaf, a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster drwy gyswllt fideo ddydd Gwener, 11 Medi.
Mae’r dyn 19 oed wedi ei gyhuddo o ddau achos o ymosod ar weithiwr gwasanaethau brys, ac un achos o geisio achosi niwed corfforol difrifol a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant yn y carchar.
Mae’r troseddau yn dyddio'n ôl i bedwar dyddiad gwahanol rhwng 6 Mai a 28 Hydref 2025.
Mae’r dyn ifanc, a dreuliodd ran o'i blentyndod yng Nghaerdydd, bellach wedi’i drosglwyddo o garchar Belmarsh i ysbyty seiciatrig ddiogel Broadmoor, yn ne Lloegr.
Roedd Rudakubana wedi pledio’n euog i lofruddio Elsie Dot Stancombe, saith oed, Bebe King, chwech oed, ac Alice da Silva Aguiar, naw oed, yn ystod ymosodiad mewn dosbarth dawns ar thema Taylor Swift yn Southport ar 29 Gorffennaf 2024.
Anafwyd wyth o blant eraill, ynghyd â’r hyfforddwraig Leanne Lucas a John Hayes, a geisiodd ei atal yn ystod yr ymosodiad.