Cadeirydd Eisteddfod 2026: ‘Ma’ gyda ni drefniadau wrth gefn os fydd ‘na brinder dŵr’
Cadeirydd Eisteddfod 2026: ‘Ma’ gyda ni drefniadau wrth gefn os fydd ‘na brinder dŵr’
Gydag Eisteddfod y Garreg Las ar ddechrau, mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, John ‘Cwmbetws’ Davies yn dweud fod ‘trefniadau wrth gefn os fydd ‘na brinder dŵr ar y safle.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, John 'Cwmbetws' Davies fod “heriau mewn ardaloedd pan ma’ 180,000 yn dod ynghyd, ond mae’r her hynny yn fwy dwys wrth gwrs mewn mater o wyth diwrnod sydd yn creu mwy o bwysau ar yr isadeiledd.”
Mae lleoliad yr Eisteddfod eleni yn rhan o’r ardal sydd wedi profi gwaharddiad ar bibellau dŵr ers tua pythefnos bellach.
Yn ei gyfweliad, fe aeth John ‘Cwmbetws’ ymlaen i ddweud: “Mae Dŵr Cymru yn gweud wrtho ni fod gyda nhw gynlluniau yn eu lle i wneud yn siwr eu bod nhw’n gallu gwasanaethu ni gyda’r cyflenwad dŵr sydd ei angen arno ni.
“Ga i hefyd bwysleisio fod gyda ni drefniadau wrth gefn os fydd na brinder dŵr o bryd i’w gilydd. Cynlluniau sydd yn cael eu gwneud ta beth.”
Mae John hefyd wedi canmol y “cydweithio ar drefniadau’r brifwyl eleni” gan ddweud fod y gofalu am y trefniadau wedi bod yn “ddrindod sirol yn wir ystyr y gair.”
Ychwanegodd fod hynny “achos pobl o’r un anian, pobl o’r un pethe’ ydyn ni.
“Dyw ffiniau gweinyddol yn meddwl dim i ardaloedd gwledig fel gogledd Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr” meddai.
Bydd maes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn agor fore Sadwrn ar ôl y cyngerdd agoriadol nos Wener.
Mae'r ŵyl eleni yn dynodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf dan nawdd Yr Arglwydd Rhys ym muriau Castell Aberteifi, dafliad carreg o faes yr Eisteddfod yn Llantwd.
Ymleda ardal Y Garreg Las ar draws gogledd Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr gan olygu fod cymunedau ar draws y tair sir wedi bod yn codi arian ar gyfer yr ŵyl eleni.
Cydnabyddodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith wrth gynnal gŵyl “o’r raddfa yma” ei bod yn “anodd i bwyntio bys ar un peth” gall fynd o’i le ond “gobeithio ydw i fydd na ddigon o ddŵr i ddelio gyda syched pawb yn y gwres llethol yma.”
‘Steddfod y Llwch?
Y tro diwethaf i'r Eisteddfod gael ei gynnal yn ardal Aberteifi oedd yn 1976 a bu'n Eisteddfod sych iawn gyda'r amodau yn debyg i eleni.
Hyd heddiw, caiff yr Eisteddfod honno yn 1976 ei hadnabod fel 'Eisteddfod y Llwch'.
Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, “mae gyda ni gynlluniau yn eu lle i ddelio ar y cŷd gyda Dŵr Cymru i fynd i’r afael gyda hynny.”
Eisteddfod wledig
Gyda’r maes yn paratoi i agor ddydd Sadwrn, mae gobeithio y bydd “chwant... yn trosglwyddo ei hunan mewn i niferoedd sylweddol [o ymwelwyr]” meddai John ‘Cwmbetws’.
“Ma rhaid i chi gofio yng nghyd-destun elw a llif arian, mae’r ‘Steddfod hon a’r drindod o’r dair sir, sir Benfro, gorllewin sir Gâr a de Ceredigion, wedi codi mwy o ran y gronfa leol ‘na unrhyw bwyllgor lleol yn hanes yr ŵyl hon felly mae hwna yn gychwyn a sail da ariannol at lwyddiant yr ŵyl hon”
“Yn ôl y dystiolaeth, mae ‘na gryn chwant i ddod i Lantwd a byw yn y gobaith ydyn ni felly y bydd y chwant hynny yn trosglwyddo ei hunan mewn i niferoedd sylweddol i ddod i diroedd ffrwythlon gogledd Sir Benfro.
Wrth drafod y ffyrdd o amgylch maes yr Eisteddfod dywedodd John ‘Cwmbetws’ Davies ei fod yn “gobeithio y bydd pawb yn cadw atyn nhw [y trefniadau ffyrdd]”
“Dwi yn ffyddiog achos mae ‘na drefniadau cynllunio manwl wedi cael eu gwneud gan yr Heddlu, y cynghorau sir, asiant Cenffordd Cymru a hefyd gyda thrafnidiaeth Cymru
“Dyn nhw ddim yn hewlydd prysur fel arfer ond ni’n disgwyl cryn prysurwch yn wythnos gyntaf mis Awst.”
Edrych ymlaen tu hwnt i’r Garreg Las
Ddydd Sul, Awst 9, fydd Eisteddfod y Garreg Las wedi dod i ben gyda phobl o bob cwr o Gymru yn ei throi hi am adre ac wrth siarad â Newyddion S4C, soniodd John 'Cwmbetws' Davies am ei obeithio ar gyfer gwaddol yr Eisteddfod hon.
“Mae gwaddol yn barod – mae’n amlygu ei hun mewn nifer o wahanol wynebau.
“Yn economaidd i ddechrau, chi yma heddi oriau cyn fo’r ‘Steddfod yn dod i’w le a chi’n gweld nifer fawr o fusnesau lleol wedi cael gwaith a masnach allan a thrwy hynny chi’n cynnal swyddi a thrwy gynnal swyddi, chi’n sicrhau gwaith i’r iaith a diwylliant ni’n mynd i fod yn dathlu ar berci [caeau] Llantwd.
“Beth dwi yn obeithio, rhywbeth sydd wedi amlygu ei hun, yr holl ystod o weithgarwch sydd wedi bod yn mynd ‘mlan ers deunaw mis – ma’ pobl wedi dod at ei gilydd ac oedd angen hynny.
“Beth mae Eisteddfod y Garreg Las 2026 wedi ei wneud yw unwaith eto, ail-gydio pobl yn yr achos, yn y rheswm i ddod ynghyd yn enw ein hiaith ni, ein diwylliant ni, ein traddodiadau ni a da o beth fydd i gynnal hwna.”