O America i Aberaeron: Taith dyn ifanc i Gymru ar ôl dysgu Cymraeg

O America i Aberaeron: Taith dyn ifanc i Gymru ar ôl dysgu Cymraeg

"Wi 'di cael yr un sgwrs ganwaith yn gweud, 'Rhys Davis yw'n enw i, wi'n dod o America,' a dy’n nhw ffili credu'r peth."

Er ei fod wedi byw yn ninas Jackson, Ohio trwy gydol ei fywyd, mae acen Rhys Davis yn gwneud i rywun feddwl ei fod wedi byw yng Ngheredigion ers yn blentyn.

Dechreuodd y dyn 21 oed ddysgu Cymraeg ym mis Hydref 2023, a bellach mae'n hollol rugl.

Penderfynodd dysgu'r Gymraeg er mwyn dod yn agosach at ei fam-gu, a symudodd o Aberaeron i Ohio yn yr 1970au.

"O’n i ddim yn siarad Cymraeg yn blentyn ond wrth i fi dyfu’n hŷn, o’n i’n sylweddoli licen i dyfu tipyn bach yn agosach at fy mam-gu," meddai wrth Newyddion S4C.

"Penderfynais i ddysgu Cymraeg fel ffordd o ymarfer, ffordd o gael rhywbeth i drafod. So es i ati i ddysgu Cymraeg a ie dyma fi dwy flynedd a hanner nes mlaen."

Image
Rhys Davis a'i fam-gu. Llun: Rhys Davis
Rhys Davis a'i fam-gu. Llun: Rhys Davis

Ar ôl dechrau dysgu'r Gymraeg ar Duolingo fe benderfynodd Rhys ddefnyddio adnoddau SaySomethinginWelsh i ddysgu mwy o Gymraeg.

Bellach mae'n sgwrsio ac yn darllen y Gymraeg bob dydd ac wedi mynychu cwrs gloywi iaith yn ystod ei ymweliad i Gymru.

Dywedodd fod ei swydd gyda'r Ganolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig yn Ohio wedi bod o gymorth mawr iddo hefyd.

Mae'r ganolfan yn cynnal cyrsiau dysgu Cymraeg a sesiynau dysgu am hanes a diwylliant Cymru.

"Ma' honno wedi bod yn rhoi swydd i fi dros yr haf am ddwy flynedd, a ‘wi ‘di neud bob math o weithgareddau, cadw’n fisi iawn, iawn," meddai.

"Ni’n cynnig gwersi a gwersylloedd yn y gymuned, ni’n cynnig cyfleoedd i bobl ddysgu am hanes yr ardal ac yn fwy na dim ma’n bwysig iawn i atgoffa pobl o pwy y’n nhw, o le ma’ nhw wedi dod.

"Ma' cael gweithio yn y Gymraeg yn brofiad heb ei ail, dwi’m yn credu bydde unrhyw bosib i fi symud mlaen mor gloi ag ydw i heb weithio yn y Gymraeg."

Mae gan Gymru ac Ohio gysylltiadau hanesyddol, gan gynnwys teuluoedd o Gymru yn symud i'r ardal yn yr 1800au ac Eisteddfodau yn cael eu cynnal yno hyd heddiw.

Image
Mae Rhys wedi ymweld â sawl lleoliad yn ystod ei ymweliad i Gymru. Llun: Rhys Davis
Mae Rhys wedi ymweld â sawl lleoliad yn ystod ei ymweliad i Gymru. Llun: Rhys Davis

Yr haf hwn oedd trydydd ymweliad Rhys i Gymru, gyda'r cyntaf pan oedd yn dair oed yn unig.

Dyw e ddim yn cofio lawer o'r daith honno, ond mae ei dad wedi ymweld ag Aberaeron ar hyd y blynyddoedd.

Er bod Rhys wedi teithio i Aberystwyth, Dolgellau a Llangrannog yn ystod ei gyfnod yma, Aberaeron yw "canolbwynt" Cymru iddo.

"Nôl yn America, ‘wi wastad yn gweud mae'r Cardis sy'n rhedeg y byd, 'chos yr unig bobl ‘wi'n clywed siarad Cymraeg yw'r Cardis," dywedodd.

"So wi'n credu bydde fe'n anochel i fi ddysgu acen Aberaeron, acen Ceredigion, ond oedd e hefyd 'di cymryd tipyn bach o waith i fi ddysgu acen leol yr ardal 'ma.

"Mae'r dre 'ma erioed wedi bod o bwys i fel teulu, a nawr wrth i ni fynd ati agosáu to at Gymru, a'r bobl fan hyn, Aberaeron yw'r canolbwynt.

"A mae 'di bod ‘na erioed, dwi'n siŵr bydd e fel 'na byth."

Image
'Cardis sy'n rhedeg y byd' meddai Rhys. Llun: Rhys Davis
'Cardis sy'n rhedeg y byd' meddai Rhys. Llun: Rhys Davis

'Cyffro'r Eisteddfod'

Dros y blynyddoedd mae Rhys wedi cymryd rhan a mynychu eisteddfodau lleol yn Ohio.

Ond eleni fydd ei ymweliad cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghymru.

Fe fydd yn teithio rhyw 25 milltir o Aberaeron i Lantwd ar gyfer y brifwyl, ac mae'n edrych ymlaen at flasu un o uchafbwyntiau diwylliant Cymru.

"Mae'r Eisteddfod - mae 'na gymaint o gyffro ynglŷn â'r holl ddigwyddiadau a'r perfformiadau a phopeth," meddai.

"A mae'r gymuned Gymraeg 'na mor gryf ynglŷn â amser 'Steddfod, ti'n gwybod, hyd yn oed rhai yn America.

"Dwi ‘di gwylio lot fawr o Eisteddfodau o'r blaen, ar-lein, beth bynnag ‘ma S4C yn darparu ar-lein.

"A mae'n edrych fel rhyw fath o, fel canolbwynt diwylliannol i'r Cymry. Mae'n ffordd i ni ddod at ein gilydd a dathlu hunaniaeth y Cymry.

"Fi'n siŵr fyddai'n mwynhau'r 'Steddfod yn fawr."

Wedi ei gyfnod yn mwynhau yn Eisteddfod y Garreg Las fe fydd cyfnod Rhys yng Nghymru yn dod i ben wrth iddo deithio 'nol i Ohio.

Sut felly mae'r dyn ifanc yn adlewyrchu ar ei daith i wlad y gân?

"Mae ‘di fod yn gyfnod brysur iawn, iawn, iawn, rhaid cofio ‘ny, a wi'n siŵr cai tipyn bach o orffwys ar ôl cyrraedd nôl yn America, achos mae di bod, ddi-stop am y mis diwetha’, ond, ie, atgofion melys."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.