Poblogaeth Cymru wedi gostwng am y tro cyntaf ers degawd
Mae poblogaeth Cymru wedi gostwng am y tro cyntaf ers degawd, yn ôl amcangyfrifon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae'r ffigyrau newydd yn dangos bod poblogaeth Cymru wedi gostwng o 3,177,949 yng nghanol 2024 i 3,175,181 yng nghanol 2025.
Daw'r gostyngiad wrth i dwf poblogaeth Cymru a Lloegr arafu i'w lefel isaf ers pandemig Covid-19, yn bennaf oherwydd cwymp mewn mudo net rhyngwladol.
Mae mudo net rhyngwladol yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng nifer y bobl sy'n mudo i'r DU a'r rhai sy'n symud dramor.
Mae amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod poblogaeth Cymru a Lloegr wedi cyrraedd 62 miliwn yng nghanol 2025, sef cynnydd o 224,900 (0.4%) yn unig o gymharu â'r flwyddyn flaenorol - y gyfradd twf isaf ers canol 2020.
Roedd mudo rhyngwladol net i Gymru a Lloegr yn 211,700 yn y flwyddyn hyd at ganol 2025, sef gostyngiad o 612,500 yn y 12 mis blaenorol.
Roedd y newid naturiol rhwng genedigaethau a marwolaethau hefyd yn is, gan ychwanegu dim ond 19,600 at y boblogaeth.
Roedd nifer y genedigaethau ar ei isaf ers canol 1978, tra bod nifer y marwolaethau ar ei isaf ers canol 2019.
Dywedodd Nigel Henretty, pennaeth ystadegau poblogaeth yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol: "Mudo yw'r prif ffactor sy’n gyrru newid yn y boblogaeth yng Nghymru a Lloegr dros y chwarter canrif diwethaf.
"Er bod hynny wedi parhau i fod yn wir, mae’r gostyngiad diweddar mewn mudo wedi arwain at y twf lleiaf yn y boblogaeth ers uchafbwynt y pandemig.
"Mae Llundain wedi gweld y gostyngiad cyntaf yn y boblogaeth ers 2021, a gostyngodd poblogaeth Cymru am y tro cyntaf ers degawd."
Yn gyffredinol, mae tua chwarter yr awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr wedi gweld gostyngiad yn eu poblogaeth yn ystod y flwyddyn hyd at ganol 2025.
Ymhlith y dinasoedd a welodd ostyngiad yn eu poblogaeth roedd Abertawe, gyda gostyngiad o tua 0.5% rhwng canol 2024 a chanol 2025.
