Pobl yng Nghymru’n fwy tebygol o 'wylio mwy o gynnwys fideo na gweddill y DU'
Mae pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o wylio mwy o gynnwys fideo bob dydd na chynulleidfaoedd mewn unrhyw genedl arall yn y DU yn ôl adroddiad newydd.
Mae'r adroddiad gan y rheoleiddiwr Ofcom hefyd yn datgan mai teledu oedd y brif ffynhonnell o newyddion a gwybodaeth etholiadol yng Nghymru cyn etholiad Senedd Cymru eleni.
Ychwanegodd yr adroddiad mai BBC One yw'r ffynhonnell newyddion sy'n cael ei defnyddio fwyaf yng Nghymru, gyda mwy na hanner (57%) o oedolion yn ei ddefnyddio, gyda chwilio ar Google yn ail (55%) a Facebook yn drydydd (52%).
Ymysg oedolion yng Nghymru sy'n gwylio S4C, mae'r adroddiad yn awgrymu mai'r rheswm mwyaf cyffredin dros wylio'r sianel yw ei bod yn cynrychioli diwylliant a bywyd Cymru (36%).
Mae tua thraean (32%) yn dweud eu bod yn gwylio i'w helpu i ddysgu Cymraeg ac mae bron i 30% (29%) yn dweud bod gwylio cynnwys Cymraeg yn bwysig iddyn nhw.
Yn ôl yr adroddiad, chwaraeon yw'r math mwyaf poblogaidd o gynnwys ymhlith oedolion sy'n gwylio S4C, gyda bron i hanner (49%) yn dweud eu bod yn gwylio rhaglenni chwaraeon ar y sianel.
Rygbi oedd yr ymateb mwyaf cyffredin pan ofynnwyd beth oedd eu hoff raglen ar S4C.
Mae rhaglenni ffeithiol a rhaglenni dogfen yn cael eu gwylio gan 28% o oedolion, tra bod 26% yn gwylio drama.
Pobl yng Nghymru yw'r gwylwyr fideo 'mwyaf brwd yn y DU' yn ôl yr adroddiad, gan wylio cyfartaledd o bedair awr 52 munud y person y dydd yn 2025.
'Cynulleidfaoedd yn parhau i newid'
Mae'r adroddiad hefyd yn datgan fod cynulleidfaoedd iau yn parhau i symud oddi wrth deledu traddodiadol.
Mae’r amser gwylio ymhlith pobl 16-24 oed wedi gostwng 37%, i ddim ond 33 munud y dydd, tra bod pobl 55 oed a hŷn yn dal i wylio mwy na phum awr y dydd ar gyfartaledd yn ôl yr adroddiad.
Naw o bob deg oedolyn yng Nghymru sydd yn gwrando ar radio bob wythnos meddai'r adroddiad. Er hynny mae arferion gwrando yn amrywio yn ôl oedran, gyda chyrhaeddiad radio ymhlith gwrandawyr iau 15-24 oed yn gostwng o 82% yn 2021/22 i 76% yn 2025/26.
Mae mwy a mwy o bobl yn gwrando ar bodlediadau, gyda 23% o oedolion yng Nghymru bellach yn gwrando arnyn nhw bob wythnos, i fyny o 14% bedair blynedd yn ôl. Ond mae gwrando ar bodlediadau yn parhau i fod yn is yng Nghymru nag yn y DU (28%).
Dywedodd Philip Henfrey, Cyfarwyddwr Cymru yn Ofcom: "Dangosodd etholiad Senedd Cymru fod darlledwyr yn parhau i chwarae rôl hanfodol wrth ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr a chefnogi dadl ddemocrataidd yng Nghymru.
"Teledu yw’r ffynhonnell bwysicaf o newyddion etholiadol i lawer o bobl o hyd, gan ddangos pa mor werthfawr yw newyddiaduraeth ddibynadwy a chywir i gynulleidfaoedd ar adegau allweddol.
"Fodd bynnag, mae'r duedd tymor hwy yn glir: mae gwylwyr iau yn troi mwy a mwy at newyddion a chyfryngau trwy wasanaethau ar-lein ac ar-alw yn hytrach na theledu traddodiadol.
"Wrth i gynulleidfaoedd barhau i newid, bydd sicrhau bod newyddion dibynadwy ar gael, lle bynnag y mae pobl yn dewis cael mynediad ato, yn parhau i fod yn her sylweddol i ddarlledwyr."