Mwyafrif o wrthdrawiadau angheuol yng ngogledd Cymru eleni wedi cynnwys beiciau modur
Mae saith o’r 13 gwrthdrawiad angheuol sydd wedi digwydd ar ffyrdd gogledd Cymru hyd yma eleni wedi ymwneud â beiciau modur.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog pob defnyddiwr ffordd i gymryd gofal ychwanegol wrth i gyfnod gwyliau’r haf ddechrau.
Mae’r llu hefyd wedi cofnodi cynnydd o 29.3% yn nifer y gwrthdrawiadau difrifol yn ymwneud â beicwyr modur, o 41 i 53.
Daw’r rhybudd wrth i fwy o bobl deithio yn ystod misoedd yr haf ac wrth i fwy o feicwyr modur fanteisio ar y tywydd cynhesach.
Mae swyddogion yn ailadrodd eu neges diogelwch fel rhan o Ymgyrch Apex, sy’n ceisio lleihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar y ffyrdd.
Mae pob un o’r gwrthdrawiadau angheuol yn parhau i gael ei ymchwilio gan Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol ac Uned Troseddau’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd yr heddlu na fyddai’n briodol gwneud sylwadau am amgylchiadau’r achosion unigol tra bod yr ymchwiliadau’n parhau.
‘Tri ar ddeg yn ormod’
Dywedodd y Rhingyll Leigh McCann, sy’n arwain Ymgyrch Apex ar ran Heddlu'r Gogledd: “Mae pob gwrthdrawiad angheuol yn drasiedi sy’n gadael effaith barhaol ar deuluoedd, ffrindiau, ymatebwyr brys a’r cymunedau ehangach.
“Erys ein meddyliau gyda phawb sydd wedi colli anwyliaid neu sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiadau dinistriol hyn.
“Tra bod yr ymchwiliadau hyn yn parhau, rydym yn gofyn i holl ddefnyddwyr y ffyrdd beidio â cholli golwg ar y gost ddynol y tu ôl i’r ffigyrau hyn.
“Mae tri ar ddeg o bobl wedi colli eu bywydau mewn gwrthdrawiadau eleni ac mae hynny’n dri ar ddeg yn ormod.
“Yn ystod misoedd yr haf bydd mwy o bobl yn teithio a mwy o feiciau modur yn mwynhau’r ffyrdd.
“Gwyddom fod beicwyr modur ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed sy’n defnyddio ein ffyrdd oherwydd, yn wahanol i’r rhai mewn cerbydau caeëdig, ychydig iawn o amddiffyniad sydd ganddynt os bydd gwrthdrawiad yn digwydd.
“Dyna pam rydyn ni’n gofyn i bawb, nid beicwyr modur yn unig, gymryd gofal ychwanegol, canolbwyntio a gwneud penderfyniadau diogel bob tro maen nhw’n teithio.
“P’un a ydych chi’n teithio ar feic modur, yn gyrru cerbyd, yn beicio neu’n cerdded, cymerwch yr amser i edrych yn iawn, canolbwyntio, ufuddhau i gyfyngiadau cyflymder, osgoi gwrthdyniadau a pheidio byth â chymryd risgiau diangen.
“Gall diffyg canolbwyntio am eiliad gael canlyniadau sy’n newid bywyd.”
Patrolau dros yr haf
Mae Ymgyrch Apex yn cyfuno addysg, ymgysylltu â chamau gorfodi wedi’u targedu er mwyn annog ymddygiad mwy diogel ar y ffyrdd a lleihau’r risg o wrthdrawiadau difrifol ac angheuol.
Bydd swyddogion yn parhau i batrolio prif lwybrau’r ardal drwy gydol yr haf, yn siarad â gyrwyr a beicwyr modur ac yn gweithredu pan fydd defnydd peryglus neu anghyfrifol o’r ffyrdd yn rhoi bywydau mewn perygl.
Mae beicwyr modur yn cael eu hannog i sicrhau bod eu beiciau’n addas i’r ffordd cyn pob taith.
Maent hefyd yn cael eu cynghori i gadw at y terfynau cyflymder, reidio yn unol ag amodau’r ffordd a’r tywydd, a chymryd eu profiad eu hunain i ystyriaeth.
Dylent gymryd seibiant rheolaidd ar deithiau hir er mwyn osgoi blinder a gwisgo dillad amddiffynnol priodol a helmed sy’n ffitio’n gywir.
Mae gyrwyr yn cael eu hatgoffa i edrych eilwaith am feiciau modur, yn enwedig wrth gyffyrdd a chylchfannau.
Maent hefyd yn cael eu hannog i adael digon o le wrth ddilyn neu oddiweddyd, osgoi unrhyw beth a all dynnu eu sylw a disgwyl gweld mwy o ddefnyddwyr bregus ar y ffyrdd yn ystod y misoedd cynhesach.
Dywedodd yr heddlu mai nod yr ymgyrch yw atal rhagor o deuluoedd rhag wynebu’r torcalon o golli rhywun annwyl ar y ffyrdd.