'Dinistriol': Rhybudd rhieni ar ôl colli eu plant drwy foddi

Christopher Turnbull a Reuben Morgan

Mae rhieni sydd wedi colli eu plant ar ôl iddyn nhw foddi yn rhybuddio am beryglon nofio agored.

Daw galwad Maxine Johnson a Debbie Anne Turnbull, a gollodd eu meibion yn 2006, cyn Diwrnod Atal Boddi y Byd ddydd Sadwrn.

Yn ddiweddar mae dau ddyn wedi boddi yn Llyn Geirionydd ger Llanrwst o fewn wythnosau i'w gilydd.

Cafodd cyrff Nathan Jones a Rowan Booth eu darganfod yn yr afon yn y dyddiau diwethaf.

Ers colli eu meibion, mae Maxine Johnson a Debbie Turnbull wedi codi ymwybyddiaeth am beryglon nofio agored, a sut i gadw'n ddiogel pe bai person mewn trafferthion yn y dŵr.

Bu farw mab Maxine, Reuben Morgan, 15, wrth nofio yng Nghronfa Ddŵr Pontsticill ger Merthyr Tudful, tra bod mab 15 oed Debbie, Christopher, wedi boddi mewn afon yng Nghapel Curig yng Nghonwy.

Gyda'r gwyliau haf yn cychwyn a nifer o farwolaethau yn ystod cyfnodau tywydd poeth diweddar, mae'r ddwy fam yn erfyn ar bobl i fwynhau mewn ffordd ddiogel.

"Rydyn ni'n gwybod mai dynion ifanc yw'r grŵp mwyaf tebygol o foddi yng Nghymru a bod mwy o bobl yn marw mewn dŵr yn ystod misoedd yr haf. Rydyn ni am i bawb wybod sut i fwynhau'r dŵr yn ddiogel," meddai Debbie.

"Dylai unrhyw un sy'n cael eu hunain mewn perygl yn y dŵr frwydro yn erbyn y reddf panig ac arnofio i fyw – ceisio ymlacio ac arnofio ar eu cefn, gyda'u pen yn pwyso’n ôl, gan symud eu dwylo a'u coesau’n ysgafn i'w helpu i aros ar ben y dŵr."

Ychwanegodd Maxine: "Mae pob achos o foddi yn creu effaith ddinistriol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau.

"Does neb byth yn meddwl y bydd hyn yn digwydd iddyn nhw, neu i’w ffrind neu i aelod o'r teulu – ond y gwir amdani yw, gall unrhyw un fynd i drafferth yn y dŵr."

600 o farwolaethau

Mae tua 600 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ac yng Nghymru, mae tua un person yn boddi bob wythnos ar gyfartaledd mewn dyfroedd arfordirol a mewndirol.

Dynion yw wyth o bob 10 o’r marwolaethau damweiniol sy'n gysylltiedig â dŵr yng Nghymru, ac mae boddi’n ddamweiniol yn digwydd amlaf ymhlith dynion rhwng 20 a 29 oed.

Wrth lansio Strategaeth Atal Boddi Cymru ddydd Gwener, dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Keith Reid, fod sawl elusen ac asiantaeth wedi dod at ei gilydd i lunio'r cynllun.

"Mae pob marwolaeth drwy foddi yn drasiedi sy’n gadael effaith barhaol ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau, ac mae un bywyd sy'n cael ei golli yn un bywyd yn ormod," meddai.

"Drwy ddod â gwasanaethau cyhoeddus, ysgolion, colegau, cymunedau, elusennau a phartneriaid ledled Cymru ynghyd, gallwn gryfhau ein cenhadaeth gyffredin i atal marwolaethau mae modd eu hosgoi mewn dŵr, ar ddŵr ac o amgylch dŵr.

"Mae’r strategaeth hon yn adlewyrchu ein bod yn benderfynol o achub bywydau, codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr, a gweithio tuag at ddyfodol lle na fydd yn rhaid i unrhyw deulu brofi’r torcalon o golli un annwyl yn y modd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.