Wrecsam yn ennill ar eu hymddangosiad cyntaf yn Ewrop
Mae menywod Wrecsam wedi ennill ar eu hymddangosiad cyntaf mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.
Enillodd y Dreigiau 4-2 yn erbyn FC Pyunik o Armenia yng Nghynghrair y Pencampwyr ar gae'r Stok Cae Ras nos Fercher.
Fe fyddan nhw'n herio FC Riga o Latfia yn rownd derfynol y rowndiau rhagbrofol cyntaf ddydd Sadwrn.
Eleni oedd y tro cyntaf i Wrecsam gystadlu yn y gystadleuaeth, ar ôl iddyn nhw ennill Prif Adran Genero y llynedd.
Roedd goliau gan Katie Barker, Lili Jones, Ava Suckley a Natasha Thomas wedi sicrhau buddugoliaeth hanesyddol.
Hwn oedd y tro cyntaf i dîm menywod o Gymru ennill gêm Ewropeaidd ers Met Caerdydd yn 2019.
Dywedodd prif hyfforddwr Wrecsam, Jenny Sugerman, ei fod yn bwysig bod ei chwaraewyr wedi ymateb ar ôl i'r gwrthwynebwyr fynd ar y blaen yn gynnar yn y gêm.
"Weithiau dydyn ni ddim yn gwneud pethau'n hawdd i'n hunain, ond dwi'n credu bod pawb yn mwynhau ychydig o ddrama," meddai.
"Y ffaith ein bod ni wedi ymateb mor sydyn ar ôl iddyn nhw fynd ar y blaen, mae hynny mor bwysig, achos fel arall y gwrthwynebwyr sydd â'r fantais.
"Rydym yn gweithio'n galed iawn ar ein hysbryd fel carfan, a dyw hynny ddim yn rhywbeth sydd yn digwydd ar ddamwain.
"Mae ein gwerthoedd a'n hegwyddorion nid yn unig yn bethau ysgrifenedig, maen nhw'n rhywbeth rydym yn byw bob dydd."
Os ydy Wrecsam yn ennill ddydd Sadwrn, fe fyddan nhw'n chwarae yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Mae angen ennill tair rownd ragbrofol cyn cyrraedd cam cynghrair y gystadleuaeth.