'Misoedd' cyn penderfynu a fydd tafarndai a chlybiau Cymru hefyd yn cael toriad trethi 20%
Fe fydd hi’n rhai misoedd cyn cael gwybod a fydd hi’n bosib penderfynu rhoi toriad 20% mewn trethi i dafarndai a chlybiau yng Nghymru fel yn Lloegr, meddai Llywoadraeth Cymru.
Fe wnaeth y Prif Weinidog newydd Andy Burnham gyhoeddi y gostyngiadau mewn ardrethi busnes i dafarndai, clybiau a lleoliadau cerddoriaeth fyw yn Lloegr fore Iau.
Mae elusen y Music Venue Trust wedi galw am gynnig yr un cymorth yng Nghymru. Byddai hynny’n “adfer rôl ganolog” cerddoriaeth fyw yng nghanol trefi a dinasoedd, medden nhw.
Ond dywedodd Llywodraeth Cymru wrth ymateb i Newyddion S4C na fyddai’r un toriadau trethi o reidrwydd yn digwydd yng Nghymru.
“Pan fydd Llywodraeth y DU yn dyrannu cyllid ychwanegol i Loegr mewn meysydd datganoledig, rydym fel arfer yn cael canlyniad Barnett,” meddai llefarydd.
“Cadarnheir y swm union drwy broses ffurfiol rhyngom ni a Thrysorlys EF, a all gymryd sawl mis.
“Byddwn yn nodi’r manylion unwaith y bydd y broses honno wedi’i chwblhau, ac ni fyddai’n briodol dyfalu ynghylch ffigurau cyn derbyn y cadarnhad hwnnw.
“Mae datganoli yn golygu mai Gweinidogion Cymru sy’n penderfynu sut mae cyllid yn cael ei wario yng Nghymru, yn seiliedig ar anghenion a blaenoriaethau’r genedl.”
‘Yr un cymorth’
Dywedodd prif weithredwr y Music Venue Trust, Mark Davyd am gyhoeddiad Andy Burnham eu bod nhw’n “croesawu’r cyhoeddiad hwn gan lywodraeth [y DU] yn fawr”.
“Mae’n cydnabod bod lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yn hanfodol i’n cymunedau lleol," meddai.
“Rydym yn galw ar y Senedd, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon i gadarnhau’n gyflym y byddant yn cynnig yr un cymorth y mae mawr ei angen drwy arian canlyniadol fformiwla Barnett.
“Mae’n rhaid i leoliadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon fod yn hyderus y bydd amodau economaidd teg ar gyfer teithio ar daith ledled y DU.”
Bydd y gostyngiad a fydd yn costio tua £100 miliwn y flwyddyn i Lywodraeth y DU yn berthnasol i bron i 32,000 o fusnesau lletygarwch, ond ni fydd ar gael i’r lleoliadau cerddoriaeth fyw mwyaf oll.
Bydd y newidiadau i ardrethi busnes yn cael eu hariannu drwy adolygu’r cymorth sydd ar gael i fusnesau nad ydynt “yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymunedau lleol”, fel siopau fêps, a thrwy fynd i’r afael â marchnadoedd ar-lein nad ydynt yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau treth, meddai Rhif 10.
Dywedodd y Prif Weinidog Andy Burnham fod y polisi yn arwydd y bydd ei lywodraeth yn "cefnogi'r busnesau y mae pobl eisiau eu gweld yn eu cymunedau" yn hytrach na sefyll o'r neilltu tra bod "lleoliadau gwerthfawr wedi diflannu o'n strydoedd mawr lleol".