Gemau'r Gymanwlad: A all Cymru dorri ei record medalau yn Glasgow?

Finucane, Davies, Azu

Bydd 114 o athletwyr yn gwisgo crys Cymru dros yr wythnosau nesaf wrth i Gemau’r Gymanwlad gychwyn yn Glasgow ddydd Iau.

Byddan nhw’n cystadlu mewn 10 camp, sef athletau, nofio, seiclo trac, gymnasteg, bocsio, codi pwysau, pêl-rwyd, pêl-fasged cadair olwyn 3×3, bowls lawnt a jiwdo. Bydd sawl un yn gobeithio ennill medal dros Gymru.

Mae’r garfan yn cynnwys 14 o athletwyr a enillodd fedalau yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022, gan gynnwys pump a enillodd fedal aur.

Fe enillodd Cymru gyfanswm o 28 medal yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2022, gan gynnwys wyth medal aur.

Bydd Cymru yn gobeithio ennill o leiaf 36 o fedalau eleni. Record Cymru yw 36 o fedalau, sef y cyfanswm a enillodd y wlad yn 2014 ac eto yn 2018.

Ross Owen fydd yr athletwr cyntaf o Dîm Cymru i gystadlu pan fydd yn wynebu Mohammed Ayub Qureshi o Bacistan yn y bowls lawnt ddydd Iau.

Cyn y seremoni agoriadol nos Iau, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ddymuno pob lwc i holl athletwyr Cymru.

“Mae Gemau’r Gymanwlad yn gyfle gwych i’n hathletwyr elît arddangos doniau chwaraeon gorau Cymru wrth iddynt gynrychioli ein gwlad ar y llwyfan rhyngwladol,” meddai.

“Mae ein cariad at chwaraeon yn uno pobl ledled Cymru, o’r clybiau lleol i’r lefel elît sy’n cystadlu yn Glasgow. Mae’r Gemau yn gyfle i ddathlu a chefnogi athletwyr presennol a hefyd i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r holl athletwyr sydd yma wedi cyflawni cymaint yn barod a bydd pobl Cymru yn eich cefnogi. Pob lwc i chi gyd!”

Tîm Cymru – Glasgow 2026

Athletau: Abigail Pawlett, Adele Nicoll, Aled Davies, Amber Simpson, Ava Lloyd, Bree Cronin, Cari Hughes, Charlotte Henrich, Ellie Bowen, Funmi Oduwaiye, Harrison Walsh, Isabelle Boffey, Jake Heyward, Jeremiah Azu, Justin Davies, Melissa Courtney-Bryant, Olivia Breen, Thomas Walley.

Bowls lawnt: Amy Williams, Daniel Salmon, Jamie Jones (cyfarwyddwr), John Wilson (cyfarwyddwr), Julie Thomas, Lauren Gowen, Ross Owen, Steffan James.

Bocsio: Connor Williams, Daniel Pitt, Helen Jones, Niamh Brookes, Orlando Holley-Sotomi, Owain Harris-Allan, Rosie Eccles.

Codi pwysau: Catrin Haf Jones, Charlotte Whalley, Chloe Hood, James Wales, Laura Hughes, Nikole Roberts.

Gymnasteg: Abigail Roper, Alexander Niscoveanu, Elliot Vernon, Emily Roper, Frances Stone, Henry Lewis, Jacob Edwards, Jemima Taylor, Joe Cemlyn-Jones, Ruby Evans.

Jiwdo: Ashleigh Barnikel, Ben Moore, Holly Devall, Joshua Bell, Joshua Whitehouse, Lola Hodson, Millie Bayliss, Oliver Barrett.

Nofio: Alexandra Bastone, Amy Crowley, Dan Jones, Dylan Broom, Ela Letton-Jones, Harry Milne, Jack Knight, Joshua Inglis, Kieran Bird, Kyle Booth, Lewis Fraser, Matthew Richards, Medi Harris, Meghan Higgs, Meghan Willis, Rebecca Sutton, Rhys Darbey, Rose Williams, Sophie Davies, Theodora Taylor, Tyler Melbourne-Smith.

Seiclo trac: Anna Morris, Carys Lloyd, Ciara Oliva, Emma Finucane, Ioan Hepburn, James Ball, Jessica Roberts, Jonah Jenkins, Lewis Oliva, Lowri Thomas, Matthew Rotherham (peilot), Megan Barker, Rhian Edmunds, Rhys Britton, Rory Gravelle, Steffan Lloyd, William Perrett, William Roberts, William Salter.

Pêl-rwyd: Lowri Windsor, Alex Johnson, Poppy Tydeman, Vicky Booth, Nansi Kuti, Caris Morgan, Megan Pilkington, Zoe Matthewman, Phillipa Yarranton, Bethan Dyke, Leah Middleton, Georgia Rowe.

Pêl-fasged cadair olwyn 3×3: Alex Wilson, Ben Johnson-Rolfe, Dan May, Will Bishop, Anastasia Blease, Chloe Morgan, Libi Phillips, Molly Lander.

Bydd S4C yn darlledu Gemau’r Gymanwlad yn fyw o ddydd Gwener 24 Gorffennaf tan ddydd Sul 2 Awst, gyda deg diwrnod o gystadlu mewn 10 camp.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.