Cyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol newydd i Gymru

Llyr Gruffydd a Rhun ap Iorwerth
 Llyr Gruffydd a Rhun ap Iorwerth

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd strategaeth fwyd genedlaethol newydd yn cael ei datblygu, gyda'r arbenigwr bwyd o Sir Gâr, Simon Wright, yn arwain y gwaith.

Bydd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, yn lansio'r strategaeth ar faes Y Sioe Fawr ddydd Mawrth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y strategaeth yn ceisio sicrhau bod polisïau bwyd yn cydweithio'n fwy effeithiol i gefnogi cynhyrchwyr, cadw ac ail-fuddsoddi mwy o werth bwyd Cymru o fewn y wlad, a hyrwyddo llythrennedd bwyd a bwyta'n iach.

Mae Simon Wright, sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y sector lletygarwch yng Nghymru, wedi'i benodi'n gadeirydd Gweithgor Arbenigol a fydd yn cynghori'r llywodraeth ar ddatblygu'r strategaeth.

Ef yw perchennog Wright's Food Emporium yn Llanarthne, Sir Gâr, ac mae'n arbenigwr ar systemau bwyd.

Fel rhan o'r gwaith, bydd yn arwain trafodaethau gyda chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau ar draws Cymru.

Mae cadwyn gyflenwi bwyd a diod Cymru yn werth dros £28 biliwn, yn ôl y llywodraeth, ac yn cyflogi un o bob chwech o weithwyr y wlad.

Bydd y Gweithgor Arbenigol yn cyflwyno argymhellion ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu system fwyd Cymru.

Bydd hefyd yn cynghori sut i fesur llwyddiant a datblygu cydweithio hirdymor rhwng Llywodraeth Cymru, y sector gyhoeddus a'r diwydiant bwyd a diod.

Mae disgwyl i'r strategaeth derfynol gael ei chyflwyno i Weinidogion Cymru yn ystod 2027.

‘Cymaint mwy y gallwn ei wneud’

Dywedodd Simon Wright: "Mae Cymru'n rhagori yn y maes bwyd a diod, ond mae cymaint mwy y gallwn ni ei wneud. 

“Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i dorri drwodd a sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn i'n diwydiant a'n gwlad.  

"Dw i'n croesawu uchelgais y Llywodraeth newydd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chynhyrchwyr, busnesau a chymunedau i'w gwireddu."

Dywedodd Llyr Gruffydd: "Mae ffermwyr Cymru yn cynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel.

“Mae ein sector bwyd a diod yn troi'r cynnyrch hwnnw, sydd o'r radd flaenaf, yn amrywiaeth eang o gynhyrchion sy'n cael eu mwynhau ledled Cymru a'u hallforio dramor, gan greu swyddi ac ychwanegu gwerth. Rydyn ni eisiau ychwanegu at y llwyddiant hwnnw.  

"Bydd y strategaeth hon yn dod â'r system fwyd gyfan ynghyd; o'n ffermwyr a'n pysgotwyr i'n manwerthwyr, ysgolion a chymunedau, fel y gallwn ni wneud penderfyniadau gwell, mwy cydgysylltiedig er budd pawb yng Nghymru.  

"Dw i'n falch iawn bod Simon Wright wedi cytuno i arwain y gwaith hwn. Mae ei frwdfrydedd dros fwyd o Gymru a'i wreiddiau dwfn yn y diwydiant yn golygu mai ef yw'r union berson cywir ar gyfer y rôl hon." 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.