Dros £111m wedi’i dalu mewn iawndal TB buchol dros bum mlynedd
Mae Llywodraeth Cymru wedi talu mwy na £111m mewn iawndal am wartheg gafodd eu lladd oherwydd TB buchol dros gyfnod o bum mlynedd, yn ôl ffigurau newydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn talu iawndal i ffermwyr pan fydd gwartheg yn cael eu lladd yn orfodol fel rhan o ymdrechion i reoli’r clefyd a’i atal rhag lledaenu.
Mae ymateb i Gais Rhyddid Gwybodaeth gan Newyddion S4C yn dangos bod cyfanswm o £111.5m wedi’i dalu rhwng 2021-22 a 2025-26.
Cafodd 53,466 o wartheg eu lladd a’u perchnogion eu digolledu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Cododd y taliadau blynyddol o £17.1m yn 2021-22 i uchafbwynt o £27.9m yn 2024-25, cyn gostwng ychydig i £26.5m yn 2025-26.
Roedd y taliadau gros yn uwch na’r gyllideb wreiddiol a glustnodwyd ar gyfer iawndal ym mhob un o’r pum mlynedd.
Yn 2025-26, roedd y gyllideb wreiddiol yn £14.3m, o’i chymharu â £26.5m mewn taliadau gros.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai £19.9m oedd y gost derfynol i’r adran yn ystod y flwyddyn honno, ar ôl ystyried yr arian a gafwyd yn ôl drwy werthu carcasau.
Y ddau daliad unigol mwyaf yn 2025-26 oedd £275,200 am 79 o wartheg a £274,300 am 101 o wartheg.
Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Abi Reader, fod chwyddiant ers 2021 wedi arwain at gynnydd yng nghostau cynhyrchu ffermwyr ac ym mhris gwartheg.
“Mae pris gwartheg hefyd wedi cynyddu gyda chwyddiant, sydd wedi arwain at werthoedd iawndal uwch,” meddai.
“Ond nid yw iawndal yn talu gwir gost achos o TB, er enghraifft oherwydd yr holl gostau anuniongyrchol sy’n deillio o golli gwerthiant llaeth, colli potensial genetig a chostau bwyd ychwanegol ar gyfer anifeiliaid o dan gyfyngiadau symud a fyddai fel arall wedi cael eu gwerthu.
“Y ffordd orau o leihau cost TB i’r trethdalwr ac i’r gymuned amaethyddol yw cael gwared arno.
“Dyna pam mae NFU Cymru yn parhau i alw am bolisi cynhwysfawr i ddileu TB sy’n mynd i’r afael â’r clefyd mewn gwartheg ac mewn bywyd gwyllt.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio fel rhan o Fwrdd Rhaglen TB Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r newid sylweddol sydd ei angen ar frys.”
‘Angen newid sylweddol’
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru fod angen newid sylweddol yn y ffordd yr eir ati i reoli TB buchol.
“Mae angen newid sylweddol yn y ffordd o fynd ati i reoli bTB, gan ddilyn y dystiolaeth wyddonol er mwyn mabwysiadu dull cyfannol sy’n mynd i’r afael â phob ffynhonnell o’r clefyd.
“Drwy wneud hynny, gellir lleihau nifer yr achosion o’r clefyd ac, yn ei dro, ostwng y bil iawndal.
“Yn anffodus, dim ond rhan fach o wir gost ariannol bTB y mae’r ffigurau hyn yn ei hadlewyrchu.
“Nid ydynt yn cyfrif am y costau cudd sylweddol y mae’r diwydiant gwartheg yng Nghymru yn eu hysgwyddo o ganlyniad i’r clefyd, gan gynnwys colledion cynhyrchiant, tarfu ar weithrediadau busnes, a’r pwysau ariannol ac iechyd meddwl parhaus sy’n wynebu ffermwyr.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i dalu swm teg i ffermwyr am wartheg sy’n cael eu lladd oherwydd TB buchol yng Nghymru.
“Mae sensitifrwydd uwch ein trefn brofi yn golygu ein bod yn adnabod y clefyd yn gynt, gan ein helpu i fynd i’r afael â TB buchol yn fwy effeithiol.
“Mae hyn, ynghyd â chynnydd yng ngwerth gwartheg ar y farchnad, wedi cyfrannu at gynnydd yn yr iawndal.
“Fel y nododd y Gweinidog yn ei Ddatganiad ar 23 Mehefin, byddwn yn adnewyddu ein strategaeth TB drwy ddilyn dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwyddoniaeth, ac sydd wedi’i adeiladu o amgylch tair colofn: pobl, gwartheg a bywyd gwyllt.
“Edrychwn ymlaen at nodi rhagor o fanylion maes o law.”