Jo Stevens yn gadael ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru
Mae Jo Stevens wedi gadael ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru wrth i Brif Weinidog newydd y DU, Andy Burnham baratoi i gyhoeddi ei gabinet.
Wrth gyhoeddi'r newyddion ar ei chyfrif X brynhawn Llun, dywedodd Jo Stevens, AS Dwyrain Caerdydd, ei bod yn "fraint ac yn anrhydedd" gwasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol benywaidd cyntaf y Blaid Lafur dros Gymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fe nododd hi hynny cyn i Andy Burnham gyhoeddi ei gabinet newydd a datgelu pwy fydd yn olynu Ms Stevens fel Ysgrifennydd Cymru.
"Rwy'n falch fy mod wedi gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Cabinet dros y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau bod blaenoriaethau pobl fy etholaeth, Dwyrain Caerdydd, a phobl ledled Cymru, nid yn unig wedi cael eu clywed ond hefyd wedi'u gwireddu," meddai.
"Fel Ysgrifennydd Cymru, fy mlaenoriaethau oedd denu buddsoddiad cyhoeddus a phreifat i Gymru, creu swyddi a chyfleoedd, a rhoi grym go iawn yn nwylo cymunedau Cymru.
"Mae Cymru wedi derbyn y setliad cyllidebol mwyaf erioed ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus ers datganoli; mae ein diwydiant dur wedi'i ddiogelu a'i drawsnewid ar gyfer y dyfodol; gwnaed y buddsoddiad cyhoeddus mwyaf yn hanes Cymru drwy'r cynllun ynni niwclear newydd yn Wylfa; sicrhawyd ymrwymiad gwerth £14 biliwn i'n rheilffyrdd yng Nghymru; cafwyd y setliad gorau o blith holl wledydd y DU ar gyfer y Gronfa Twf Lleol; a chyflawnwyd llawer iawn mwy.
"Mae'r llwyddiannau hyn wedi'u sicrhau drwy waith Swyddfa Cymru, ac rwyf am ddiolch i'r tîm cyfan am eu gwaith caled a'u cefnogaeth wrth wireddu'r rhain a nifer fawr o gyflawniadau eraill. Bydd manteision y gwaith hwn i Gymru i'w teimlo am genedlaethau i ddod."
"Rwyf yr un mor falch o'r hyn y mae Llywodraeth Lafur y DU gyfan wedi'i gyflawni yn ystod y ddwy flynedd gyntaf hyn."
Ychwanegodd ei bod yn dymuno bob llwyddiant i'r Prif Weinidog newydd, Andy Burnham ac i'w holynydd.
Fe aeth ymlaen i roi teyrnged i Syr Keir Starmer, a gamodd o'r neilltu fore Llun.
"Mae Keir yn gadael y wlad mewn cyflwr llawer gwell nag yr oedd pan gymerodd yr awenau," meddai.
"Rwy'n falch fy mod wedi cael gwasanaethu o dan ei arweinyddiaeth, ac yn falch o'i alw'n ffrind."