Carchar i ddyn o Glynnog Fawr am stelcian a bod â lluniau anweddus yn ei feddiant
Mae dyn 40 oed o Wynedd wedi ei garcharu am ddwy flynedd a phedwar mis yn Llys y Goron Caernarfon fore dydd Llun.
Roedd Jonathan Hughes-Evans wedi ei gyhuddo o stelcian menyw 20 oed, ac o greu a bod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Mewn gwrandawiad cyn y dedfrydu, roedd Hughes-Evans wedi pledio’n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Clywodd y llys ei fod wedi treulio dros dair blynedd yn stelcian menyw 20 oed drwy anfon cyfres o negeseuon bygythiol ac o natur rywiol ati dros blatfform Snapchat.
Pob tro yr oedd y ddioddefwraig yn ceisio ei atal rhag gallu cysylltu â hi, fe fyddai'n creu cyfrifon newydd ffug er mwyn gallu parhau i gysylltu â'r fenyw.
Dywedodd y bargyfreithiwr ar ran y Goron, Ryan Rothwell, fod y fenyw a gafodd ei stelcian wedi dioddef yn sylweddol yn sgil ymddygiad parhaus Hughes-Evans, a bu'n rhaid iddi uwchraddio systemau diogelwch o amgylch ei thŷ, a dibynnu ar gefnogaeth gwahanol asiantaethau.
Fe wnaeth y Barnwr hefyd gyhoeddi gorchymyn sydd yn atal Jonathan Hughes-Evans rhag cael unrhyw gyswllt â'r fenyw am 20 mlynedd.
Cyhuddiadau blaenorol
Nid dyma'r tro cyntaf i Hughes-Evans o Lwyn y Ne, Clynnog Fawr, fod o flaen ei well yn wynebu cyhuddiadau tebyg, gan iddo gael ei ganfod yn euog 2013 am fod â lluniau anweddus o blant yn ei feddiant.
Fe ddaeth troseddau presennol Hughes-Evans i sylw'r heddlu yn 2023, pan gafodd ei arestio am y tro cyntaf ar 3 Awst y flwyddyn honno.
Dywedodd y Barnwr Tim Petts ei fod wedi ei ryfeddu gan y ffaith fod Hughes-Evans wedi parhau i droseddu tra'r oedd ar fechnïaeth yr heddlu wedi iddo gael ei arestio bryd hynny.
"Er i chi geisio'n galed i ddefnyddio meddalwedd VPNs i drio cuddio'ch troseddau ar-lein, yn anffodus i chi, ofer oedd eich ymdrechion, gan fod yr heddlu wedi gallu darganfod eich holl weithredoedd ar-lein.
"Yn amlwg dydych chi heb ddysgu eich gwers ers 2013, ond mae’n amlwg i mi o’r adroddiadau dwi wedi ddarllen eich bod wastad yn beio pawb arall am bopeth sydd wedi digwydd, ac eich bod yn ymwrthod cymryd cyfrifoldeb a derbyn unrhyw fai arna chi’ch hun.
"Fe fydde chi wedi gallu dod â hyn i gyd i ben yn llawer cynt, os bydde chi wedi cymryd cyfrifoldeb a phledio’n euog yn gynt" ychwanegodd y Barnwr Petts wrth ei ddedfrydu.
Fe ddaeth staff arbenigol yr heddlu o hyd i’r ffaith fod Hughes-Evans wedi parhau i lawrlwytho delweddau anghyfreithlon o blant, gan gynnwys dau fideo o’r categori gwaethaf posib drwy blatfform Telegram, a bod hynny wedi digwydd yn ystod y cyfnod lle'r oedd yr achos yn fyw.
'Gofal llawn amser i'w rieni'
Apeliodd y bargyfreithiwr Brett Williamson ar ran Hughes-Evans, sy'n rhedeg busnes paentio ceir yn ardal gorllewin Gwynedd, ar y barnwr i fod yn ystyrlon o unrhyw ddedfryd oedd yn ystyried ei roi.
Roedd Hughes-Evans, meddai, bellach yn ddyn oedd yn edifar ei ymddygiad yn llwyr, gan ychwanegu ei fod yn dioddef o gyflyrau meddygol ffisegol a meddygol, yn cynnwys clawstroffobia a phwysau gwaed uchel.
Fe ychwanegodd Mr Williamson fod Hughes-Evans yn brif ofalwr llawn amser dros ei fam a’i dad oedrannus, ac y byddai unrhyw ddedfryd o gyfnod yn y carchar yn cael effaith andwyol arnynt.
Cafodd Jonathan Hughes-Evans ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar, yn ogystal â'i roi ar y gofrestr troseddau rhyw am 10 mlynedd, a chyfnod o 10 mlynedd o orchymyn atal niwed rhywiol.
Fe orchmynodd y barnwr i swyddogion y beili i "fynd â fo i lawr," ond fe geisiodd y troseddwr weiddi o'r doc ei fod eisiau cyfle i gael dweud ei ddweud.
Gwrthododd y barnwr ei gais, gan ofyn eto wrth swyddogion y beili i'w symud o'r llys.