Achos trywanu athrawes: Rheithgor yn ystyried ei ddyfarniad

Ysgol Aberdaugleddau

Mae rheithgor wedi dechrau ystyried ei ddyfarniadau yn achos bachgen ysgol sydd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio athrawes yn Sir Benfro.

Mae'r diffynnydd 16 oed wedi pledio'n ddieuog i geisio llofruddio Vicki Williams yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau ym mis Chwefror eleni.

Nid oes modd ei enwi o achos ei oedran. 

Mae'r bachgen, a oedd yn 15 oed adeg yr ymosodiad honedig, wedi ei gyhuddo o drywanu Mrs Williams yn ei phen yn fwriadol.

Yn gynharach yn yr achos, dywedodd y bachgen wrth y llys fod Mrs Williams wedi ei weld gyda'r gyllell ac wedi "ceisio ei chymryd" oddi arno. 

Dywedodd ei fod wedi "ymosod arni ar ddamwain" wrth i'r ddau ymrafael.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y bachgen wedi mynd at ei desg ar brynhawn y 5ed o Chwefror i ofyn iddi wirio ei waith.

'Clychau larwm'

Pan gaeodd ddrws yr ystafell ddosbarth, gan ddweud ei bod hi'n oer, dechreuodd "glychau larwm" ganu ym mhen yr athrawes, meddai hi.

Clywodd y rheithgor fod y myfyriwr wedi tynnu cyllell gegin fawr o'i fag, gan ei tharo yn y pen.

Clywodd y llys hefyd fod "ymrafael treisgar" wedi dilyn lle ceisiodd Mrs Williams gymryd y gyllell oddi wrtho cyn iddo redeg o'r ysgol.

Cafodd lluniau teledu cylch cyfyng eu dangos i'r rheithgor o'r bachgen yn gadael yr adeilad, cyn mynd i gartref ei nain, gan ddweud wrthi: "Aeth rhywbeth i mewn i fy mhen, nain."

'Brolio'

Awgrymodd Matthew Roberts KC ar ran yr amddiffyniad fod y myfyriwr wedi dod â'r gyllell gegin i'r ysgol er mwyn "brolio" i fechgyn eraill.

Dywedodd wrth y llys: “Nid oedd hanes ar gofnod o unrhyw wrthdaro rhwng (y myfyriwr) a Vicki Williams.

“Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw elyniaeth nac unrhyw ddrwgdeimlad rhyngddynt o gwbl.

“Nid (oedd ganddo)... unrhyw reswm o gwbl i fod eisiau brifo Vicki Williams.”

Clywodd y llys yn flaenorol fod Mrs Williams wedi mynd i'r ysbyty yn Hwlffordd wedi'r ymosodiad honedig. 

Roedd ganddi anaf i groen ei phen, crafiadau ar ei chefn a thoriadau bach i’w dwylo.

Mae’r bachgen yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.