Pam bod y gwrthdaro rhwng America ag Iran wedi gwaethygu eto?
Mae’r ymladd rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran wedi gwaethygu’n sylweddol unwaith eto ar ôl i gadoediad bregus chwalu yr wythnos diwethaf.
Mae America bellach wedi cynnal naw noson o ymosodiadau yn olynol ar Iran.
Mae Iran wedi ymateb drwy ymosod ar dargedau yn Bahrain, Gwlad Iorddonen (Jordan) a Kuwait. Fe fuodd tri o filwyr yr Unol Daleithiau farw dros y dyddiau diwethaf.
Wrth wraidd y cynnydd diweddar mewn ymosodiadau mae anghydfod dros Gulfor Hormuz, ymosodiadau ar longau masnach, a marwolaethau y milwyr Americanaidd.
Beth ddigwyddodd i’r cadoediad?
Mae’r rhyfel presennol wedi bod yn mynd rhagddo ers 28 Chwefror, ond daeth cadoediad i rym ar 8 Ebrill.
Yna ym mis Mehefin, cytunodd Washington a Tehran ar femorandwm 14 pwynt.
Roedd y cytundeb yn cynnwys ailagor Culfor Hormuz i longau masnach, llacio’r pwysau economaidd ar Iran a chynnal trafodaethau am raglen niwclear y wlad.
Roedd y cytundeb yn rhoi 60 diwrnod i’r ddwy ochr geisio dod i gytundeb ehangach ar ddod â’r rhyfel i ben.
Ond ar 7 Gorffennaf, dywedodd swyddogion Americanaidd fod Iran wedi ymosod ar dair llong oedd yn teithio drwy Gulfor Hormuz yn nyfroedd Oman.
Dywedodd Tehran fod rhai llongau wedi anwybyddu rhybuddion ac wedi ceisio defnyddio llwybrau nad oedd Iran wedi eu cymeradwyo.
Mae America a’i chynghreiriaid yn dweud bod Culfor Hormuz yn ddyfrffordd ryngwladol ac y dylai llongau masnach allu teithio drwyddo’n rhydd heb reolaeth Iran.
Fe wnaeth America ymateb i’r ymosodiadau ar y llongau drwy daro targedau milwrol yn Iran.
Y diwrnod wedyn, fe wnaeth Iran ymateb drwy lansio ymosodiadau ar dargedau Americanaidd yn Bahrain a Kuwait.
Dywedodd Arlywydd America, Donald Trump, bryd hynny fod y cytundeb dros dro wedi dod i ben.
Mae Washington yn dweud bod Iran wedi torri’r cytundeb drwy ymosod ar longau, tra bod Tehran yn dweud mai America oedd wedi torri’r cytundeb yn gyntaf.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Mae America yn dweud ei bod yn dal yn barod i gynnal trafodaethau.
Ond mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Marco Rubio, wedi dweud bod yn rhaid i unrhyw drafodaethau fod yn rhai “gwirioneddol”.
“Rydym wedi ceisio sawl gwaith gydag Iran, a byddwn yn parhau i geisio,” meddai.
“Os bydd y drws hwnnw'n agor, byddwn yn hapus i'w weld yn agor.”
Ond fe ychwanegodd, "Mae'n rhaid i'w hymddygiad newid er mwyn i'n hymddygiad ni newid."
Yn y cyfamser, mae’r ddwy ochr yn parhau i bwyntio bys at y llall ac ymateb i bob ymosodiad gydag ymosodiad arall, gan greu cylch dieflig o drais heb ffordd amlwg o ddianc ohono.
Dywedodd Donald Trump ddydd Llun bod yr ymosodiadau diweddaraf er mwyn “anrhydeddu” y tri o’r Unol Daleithiau fuodd farw.
Heb ateb amlwg i anghydfod Culfor Hormuz, rhaglen niwclear Iran a’r presenoldeb milwrol Americanaidd yn y rhanbarth, mae perygl y gallai’r gwrthdaro gynyddu eto.