‘Gall achub eich bywyd’: Dechrau cynnig brechiad Men B i bobl ifanc yng Nghymru

Meningitis Caint (PA)

Mae rhaglen i gynnig y brechlyn meningococol B (Men B) i bobl ifanc yng Nghymru wedi dechrau ddydd Llun.

Dyma’r tro cyntaf y bydd y brechiad yn cael ei gynnig i bobl ifanc sy’n paratoi i fynd i’r brifysgol neu i leoliad addysg bellach breswyl am y tro cyntaf.

Mae’r cynnig yn dod ar ôl sawl achos o lid yr ymennydd, neu feningitis, yn bennaf ymhlith myfyrwyr Prifysgol Caint ym mis Mawrth 2026.

Roedd dau fyfyriwr yn y sir wedi marw o’r clefyd. Mae’r rhaglen frechu yn cael ei chyflwyno ym mhob un o wledydd y DU.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru fe ddylai pobl ifanc gael dau ddos o'r brechlyn cyn iddynt fynd i’r brifysgol neu i leoliad addysg breswyl arall.

Mae’r rhaglen ar gael am gyfnod cyfyngedig i’r garfan o bobl ifanc a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008. Mae hefyd ar gael i’r rhai sydd o dan 25 oed ac sy’n mynd i leoliad addysg bellach neu addysg uwch breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn.

'Moment bwysig'

Haint bacteriol prin yw clefyd meningococol B ond mae'n ddifrifol ac yn gallu achosi llid yr ymennydd a sepsis.

Mae brechlyn yn erbyn clefyd meningococol B wedi bod ar gael i fabis ers 2015. Bellach mae'n cael ei gynnig am y tro cyntaf i’r garfan hon o bobl ifanc.

Mae data’n dangos bod pobl ifanc sy’n dechrau yn y brifysgol saith gwaith yn fwy tebygol o ddal clefyd meningococol B na phobl mewn grwpiau eraill. Mae’r risg yn arbennig o uchel i’r rhai sy’n byw mewn llety prifysgol sy’n cael ei rannu.

Mae’r risg yn uwch oherwydd eu bod yn byw yn agos at bobl eraill, yn rhannu mannau cymdeithasol ac yn cymysgu â nifer fawr o bobl o bob cwr o’r wlad a thu hwnt.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod hyn yn “foment bwysig iawn i bobl ifanc ledled Cymru”.

“Gall Llid yr Ymennydd B daro’n gyflym a chyda chanlyniadau dinistriol,” meddai.

“Mae pobl ifanc sy’n mynd i’r brifysgol am y tro cyntaf ymhlith y rhai sydd fwyaf mewn perygl.

“Rydym yn annog pawb sydd wedi cael cynnig gan eu bwrdd iechyd i fanteisio ar y cynnig hwnnw a chael eu brechu — ac i wneud yn siŵr eu bod yn dod yn ôl i gael yr ail ddos.

“Bydd cael dau ddos yn rhoi’r amddiffyniad llawn sydd ei angen arnoch chi. Gallai’r brechiad hwn achub eich bywyd.”

Symptomau

Mae symptomau llid yr ymennydd a septisemia y dylid cadw llygad amdanynt yn cynnwys:

  • Cur pen difrifol.
  • Tymheredd uchel (twymyn).
  • Gwddf stiff.
  • Sensitifrwydd i olau neu synau uchel.
  • Chwydu neu gyfog.
  • Trawiadau neu ffitiau.
  • Brech nad yw’n diflannu wrth bwyso gwydr yn ei herbyn. Gall hyn fod yn arwydd o sepsis ac mae angen sylw meddygol brys.
  • Dryswch, cysgadrwydd (drowsiness) neu anhawster deffro.
  • Dwylo a thraed oer, neu groen gwelw neu gochlyd.

Ni fydd pawb yn datblygu’r holl symptomau hyn, a gallant ymddangos mewn unrhyw drefn. Os byddwch chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn datblygu unrhyw un o’r symptomau hyn, ffoniwch 999 neu ewch i’ch adran achosion brys agosaf ar unwaith. Peidiwch ag aros i frech ymddangos.

Bydd pobl ifanc 17 a 18 oed, sef y rhai a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008, yn cael llythyr gan eu bwrdd iechyd yn eu gwahodd i apwyntiad.

Ni fydd y rhai a gafodd eu geni ar 21 Gorffennaf 2001 neu ar ôl hynny, sy’n troi’n 25 oed ar 21 Gorffennaf 2026 neu ar ôl hynny, ac sy’n dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf o hydref 2026 yn cael llythyr. 

Fe ddylen nhw gysylltu â’u bwrdd iechyd i weld ble y gallant gael eu brechu yn eu hardal.

Dywedodd Dr Tom Nutt, Prif Weithredwr Meningitis Now, fod hyn yn “gyfle na ellir ei golli i amddiffyn miloedd o bobl ifanc rhag llid yr Ymennydd B”.

"Rydym eisiau i bob unigolyn ifanc yn ei arddegau a phob oedolyn ifanc sy'n gymwys i gael ei frechu fanteisio ar y cynnig o frechiad am ddim.

“Mae’r rhaglen GIG hon yn gam hynod gadarnhaol ac rydym yn falch o’i chefnogi.

“Ond rydym hefyd yn gwybod na all yr ymgyrch i amddiffyn pobl ifanc ddod i ben yma.

Dyna pam mae ein hymgyrch 'Dim Cynllun B i MenB' yn parhau i alw am raglen frechu rhag Llid yr Ymennydd B reolaidd i bobl ifanc, fel bod cenedlaethau'r dyfodol o bobl ifanc yn cael yr amddiffyniad hwn fel rhan o raglen imiwneiddio arferol y GIG."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.