Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd £1 biliwn o gyllid i ffermwyr Cymru erbyn 2030

Llyr Gruffydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd ffermwyr Cymru yn derbyn dros £1 biliwn o gyllid ar draws y tymor hwn yn y Senedd i gefnogi amaethyddiaeth gynaliadwy.

Dywedodd y Gweinidog Amaeth Llyr Gruffydd y bydd £340 miliwn y flwyddyn yn cael ei rhoi hyd at fis Mawrth 2030 ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sef cynllun sydd yn rhoi cymorthdal i ffermwyr. 

Yn ôl y llywodraeth bydd yr arian "yn rhoi sicrwydd hirdymor sydd ei angen ar y sector i gynllunio a buddsoddi yn hyderus”. 

Roedd gosod cyllideb dros sawl blwyddyn i helpu ffermwyr i gynllunio ymlaen llaw yn un o addewidion Plaid Cymru ar gyfer ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym.

Fe wnaeth y Gweinidog Amaeth y cyhoeddiad yn y Sioe Frenhinol ddydd Llun. 

Y nod yw bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cymryd lle'r Taliad Sylfaenol, sydd wedi cael ei ddosbarthu gan y Llywodraeth ers 2021 a chyn hynny, gan yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd elfennau o’r cynllun presennol, a gyflwynwyd dros yr haf y llynedd, eu croesawu gan undebau ffermio, a hynny ar ôl i’r Llywodraeth Lafur flaenorol ddiwygio o’r cynnig gwreiddiol.

Roedd y cynnig blaenorol wedi’i feirniadu’n hallt ar ôl cynnwys amod y dylai pob fferm orchuddio o leiaf 10% o’r tir gyda choed.

Mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad o sicrwydd ariannol.

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Abi Reader, y byddai’r diwydiant yn “croesawu’r cyllid aml-flwyddyn yn fawr”.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman eu bod "wedi galw’n gyson am fframwaith cyllido pum mlynedd. 

"Felly, mae’r ymrwymiad heddiw i roi sicrwydd tan fis Mawrth 2030 yn rhyddhad i’w groesawu i ffermydd teuluol Cymru,” meddai.

'Anodd'

Ychwanegodd Llyr Gruffydd fod cyhoeddi £1 biliwn o gyllid ar draws y tymor hwn yn y Senedd “yn dod â'r model cyllido o flwyddyn i flwyddyn i ben sydd wedi gwneud cynllunio hirdymor yn anodd i fusnesau ffermio". 

"Mae'n cyflawni addewid a wnaed yn ystod 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru i ddarparu cyllideb amlflwydd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy," meddai.

Yn ôl y Gweinidog Amaeth mae hi'n bwysig bod ffermwyr yn gallu cynllunio i'r dyfodol. 

"Nid yw rhoi dim ond 12 mis o gynllun i ffermwyr o ran cyllid yn ddigonol," meddai.

"Rydym yn gwybod pa mor anodd yw cynllunio a gwneud penderfyniadau busnes heb wybod pa gyllid sy'n dod. Dywedodd ffermwyr wrthym yn bendant ac yn glir bod angen sicrwydd a sefydlogrwydd arnyn nhw - a dyna'n union beth rydyn ni'n ei roi." 

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud y byddan nhw’n torri biwrocratiaeth i ffermwyr. Fe fyddan nhw hefyd yn symleiddio'r dull ar gyfer y Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid sef y broses ble mae'n rhaid i ffermwyr weithio'n flynyddol gyda'u milfeddyg i asesu, monitro a gwella iechyd a lles eu da byw.

Fe gyhoeddodd Llyr Gruffydd hefyd y bydd yn cefnogi cynlluniau amaethyddiaeth sydd yn hybu ffermio cynaliadwy sydd mewn cytgord â natur.  

"Mae'r fferm deuluol yng nghanol Cymru wledig - ei heconomi a'i chymunedau. Rwy'n ymrwymedig i weithio i sicrhau bod ffermio yng Nghymru yn ffynnu am genedlaethau i ddod,” meddai.

"Fy neges i ffermwyr o'r diwrnod cyntaf yw – mae gennych Weinidog ar eich ochr chi. 

"Rhywun sy'n deall y diwydiant amaethyddol, sy'n gwybod mai'r fferm deuluol yw sylfaen ein heconomi wledig a'n cymunedau gwledig, ac a fydd yn gweithio bob dydd i sicrhau bod ffermio yng Nghymru yn ffynnu am genedlaethau i ddod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.