'Rhoi llais i ffermwyr ifanc’: Digwyddiad 'tei porffor' i ddathlu 90 mlynedd o CFfI Cymru

Dominic Hampson-Smith, Will Hughes ac Angharad Thomas
Ffermwyr Ifanc 90

Bydd CFfI Cymru yn dathlu 90 mlynedd ers ei sefydlu yn 1936 gyda digwyddiad arbennig ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Sadwrn.

Yn ôl rhai o'r aelodau, mae'r mudiad yn rhoi cyfleoedd a llais i bobl ifanc mewn amaethyddiaeth a chymunedau gwledig ledled Cymru.

Bydd bron i 300 o aelodau a chyn-aelodau yn dod ynghyd nos Sadwrn ar gyfer cinio dathlu ‘tei porffor’ ar faes y Sioe yn Llanelwedd.

Yn hytrach na’r tei du traddodiadol, bydd y gwesteion yn gwisgo tei porffor er mwyn adlewyrchu lliw CFfI Cymru.

Dywedodd Cadeirydd CFfI Cymru, Angharad Thomas: “Er mwyn rhoi stamp CFfI ar y digwyddiad ei hun, penderfynon ni newid y ‘black tie’ yn ‘purple tie’, er mwyn dod â gwir deimlad y ffermwyr ifanc i mewn i’r digwyddiad.”

Mae’r cinio yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal eleni i nodi 90 mlynedd ers sefydlu’r mudiad.

Dywedodd Angharad ei bod yn “fraint” bod yn Gadeirydd yn ystod carreg filltir mor arwyddocaol yn ei hanes.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen nawr at gael gymaint o bobl at ei gilydd i hel atgofion a chreu atgofion newydd,” meddai.

“Yn ystod y cinio, rydyn ni’n gobeithio i ddal rhai o’r straeon nad oes neb efallai’n cofio amdanyn nhw, ac i edrych ymlaen at y dathliadau sydd i ddod.”

Daw’r cinio ddeuddydd cyn dechrau Sioe Frenhinol Cymru, sy’n un o uchafbwyntiau calendr y mudiad.

Yn ôl Angharad, bydd tua 1,000 o aelodau o bob rhan o Gymru yn cystadlu yn ystod wythnos y sioe.

Image
Comp CFFI

Bydd CFfI Cymru hefyd yn cymryd drosodd y prif gylch am tua 20 munud ddydd Llun er mwyn arddangos y mudiad a’r cyfleoedd sydd ar gael i aelodau.

Bydd fideo swyddogol y sengl ‘Fel Hyn Da Ni Fod’ hefyd yn cael ei lansio ar y cyd â BBC Radio Cymru ddydd Sul.

Dywedodd Angharad fod aelodau newydd yn parhau i ddod â’u sgiliau a’u syniadau eu hunain i CFfI Cymru, gan helpu’r mudiad i ddatblygu.

“Mae cymaint o aelodau yn ymuno â’r mudiad, a phawb yn dod â’u sgiliau a’u syniadau eu hunain,” meddai.

“Mae hynny’n cadw’r mudiad yn ffres. Ynghyd ag edrych yn ôl dros y 90 mlynedd, mae hefyd yn braf edrych ymlaen.”

‘Rhoi llais i bobl ifanc’

Dywedodd Is-gadeirydd CFfI Cymru, Dominic Hampson-Smith, fod y mudiad yn chwarae rôl bwysig wrth gynrychioli pobl ifanc mewn trafodaethau am ddyfodol amaethyddiaeth a chymunedau gwledig.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi llais i bobl ifanc ac i ffermwyr ifanc,” meddai.

“Ni yw’r genhedlaeth nesaf o weithwyr mewn amaethyddiaeth ac mewn cymunedau gwledig.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n helpu i lunio dyfodol cymunedau yng Nghymru ac yn cael effaith ar y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud.”

Image
Comp 2

Mae gweithgareddau CFfI Cymru wedi ehangu dros y degawdau, o ffocws cryf ar amaethyddiaeth yn ei ddyddiau cynnar i gynnwys eisteddfodau, chwaraeon, cerddoriaeth a theithiau rhyngwladol.

Dywedodd Will Hughes, Aelod Hŷn y Flwyddyn CFfI Cymru 2026, fod y mudiad wedi parhau i ddatblygu wrth gadw cysylltiad â’i draddodiadau.

“Fel mudiad, er bod llawer o’r traddodiadau yn dal i fynd, rydyn ni wastad wedi datblygu,” meddai.

“Mae’r mudiad wedi mynd o ffocws mwy ar amaeth yn y dyddiau cynnar i gynnwys ystod eang o gyfleoedd, o’r eisteddfod i chwaraeon, recordio sengl a theithiau rhyngwladol.”

Wrth edrych ymlaen at ddyfodol y mudiad, dywedodd Dominic: “Dwi’n edrych ymlaen at weld sut mae’r mudiad yn datblygu dros y 90 mlynedd nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.