Prosiect newydd am geisio sicrhau bod addysg Gymraeg yn fwy cynhwysol a chroesawgar
Prosiect newydd am geisio sicrhau bod addysg Gymraeg yn fwy cynhwysol a chroesawgar
Mae prosiect newydd yn gobeithio rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru a chynghorau lleol i sicrhau bod pob teulu yn cael gwybod am addysg cyfrwng Cymraeg wrth ddewis ysgol i’w plant.
Cafodd digwyddiad ‘Addysg Cyfrwng Cymraeg i Bawb’ ei gynnal yn ardal Grangetown i drafod dyfodol addysg gynnar cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd. Bwriad y prosiect ydi gwrando ar brofiadau teuluoedd o wahanol gefndiroedd.
Mae’r prosiect yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin. Mae’n rhan o’r rhaglen ehangach Llwybrau at y Gymraeg, dan arweiniad Prifysgol Abertawe ac IAITH: Y Ganolfan Cynllunio Iaith.
Dr Gwennan Higham yw un o arweinwyr y prosiect. Dywedodd fod “agweddau pobl at y Gymraeg yn gadarnhaol, ond dydi hynny ddim yn ddigon”.
“Mae diffyg gwybodaeth uniongyrchol, dealltwriaeth a hyder i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg. Mae llawer yn teimlo dyw’r Gymraeg ddim yn perthyn iddyn nhw,” meddai.
“Mae ishe bod pob un yn gwybod bod addysg Gymraeg yn opsiwn a bod hynny ar gael. Felly, mae ishe cydweithio yn y gymuned a bod pobl yn atebol.
“Mae disgwyliadau ar y llywodraeth ac ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pob un yn gwybod am addysg Gymraeg a Saesneg wrth wneud eu dewisiadau.”
‘Pwysig rhoi’r opsiwn’
Fel rhan o’r ymchwil, cafodd 28 o rieni a gofalwyr eu holi. Roedden nhw’n dod o gefndiroedd ethnig, diwylliannol ac ieithyddol amrywiol ac yn byw yng Ngrangetown, Trebiwt a Glan yr Afon.
Fe wnaethon nhw drafod eu profiadau, eu safbwyntiau a’u dyheadau wrth geisio penderfynu ar addysg eu plant.
Roedd yr ymchwil yn awgrymu bod gan 54% o rieni ddiddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a bod 25% o’u plant eisoes yn dilyn y llwybr hwnnw.
Roedd Kirran Lochhead Strang yn un o’r siaradwyr gwadd yn y digwyddiad. Mae’n ymgyrchydd brwd dros ddod â chymunedau amlddiwylliannol ynghyd.
Yn ddiweddar, mae Kirran wedi bod ar daith i godi arian i Gylch Meithrin yn yr ardal. Mae hyn yn galluogi’r cylch i gynnig lle am ddim i blentyn sy’n ceisio lloches neu sydd wedi cael lloches yng Nghymru.
Y nod yw rhoi mynediad i’r plentyn at yr iaith a’r diwylliant, a rhoi cyfle i’r rhieni ddilyn cwrs neu gymryd rhan mewn gweithgaredd tra bod y plentyn yn mynd i’r cylch.
“Y bwriad i ddechrau oedd cynnig lle am ddeuddydd, ond gan fod pobl wedi bod mor hael**, rydyn ni** wedi ehangu hynny i dridiau,” meddai.
“Mae’n bwysig rhoi’r opsiwn Cymraeg i deuluoedd na fyddai’n ystyried addysg Gymraeg i’w plant. Dwi’n credu y byddai’n dylanwadu ar y teulu ac ar eu profiad nhw o’r Gymraeg.”
Mae disgwyl i’r plentyn ddechrau mynd i’r cylch ym mis Medi. Mae Kirran yn gobeithio ehangu’r cynllun i gylchoedd eraill yn yr ardal a thu hwnt.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gosod uchelgais ac enghraifft i bawb yng Nghymru, a’n bod ni’n rhagweithiol,” meddai.
“Dydyn ni ddim eisiau gweld plant a theuluoedd o gefndiroedd penodol yn fwy tueddol o beidio â chyrchu addysg cyfrwng Cymraeg.”
‘Manteision’
Yn ôl Dr Mirain Rhys, sy’n uwch-ddarlithydd seicoleg ac yn arbenigo mewn addysg gynnar ddwyieithog, mae angen gwneud rhieni’n fwy ymwybodol o’r cyfleoedd i gyflwyno’r iaith i’r cartref cyfan, yn hytrach na dim ond dewis addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant.
“Y peth pwysig i’w gofio ydi bod rhaid i rieni hefyd ymroi,” meddai.
“Mae’n brofiad gwahanol i addysg cyfrwng Saesneg. Mae nifer o rieni yn sôn am y ffaith nad ydyn nhw’n gallu helpu eu plant wrth iddyn nhw symud i fyny’r ysgol.
"Felly, mae’n bwysig pwysleisio hynny a darparu gwybodaeth gywir i rieni ynglŷn â phrofiad y plentyn a phrofiad y rhieni eu hunain.
“Mae amlygiad i’r Gymraeg mor gynnar â phosib yn gallu bod â manteision gwybyddol, ieithyddol, cymdeithasol ac emosiynol i blant ifanc a’u teuluoedd.
“Mae’n gyfle iddyn nhw ddatblygu hunaniaeth Gymreig sy’n bwysig o ran ysgogi unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r byd addysg.”
Ymateb
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: “Rwy’n falch o ddiwylliant amlieithog ac amlddiwylliannol Cymru.
“Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn plethu’n naturiol gydag ieithoedd a hunaniaethau eraill, gan helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau dwyieithog neu amlieithog ochr yn ochr â’u hieithoedd eraill.
“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydyn ni am i bob plentyn gael cyfle teg i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol a hyderus.
“Rydyn ni’n cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ar draws y sector addysg, yn ehangu cyfleoedd trochi hwyr ym mhob awdurdod lleol, ac yn gweithio tuag at uchelgais o sicrhau bod 50% o ddysgwyr yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
"Gan weithio gyda phartneriaid ac awdurdodau lleol, rydyn ni’n cefnogi teuluoedd sy’n ystyried addysg Gymraeg i’w plant, beth bynnag eu cefndir, a bod hynny’n digwydd mewn ffordd sy’n gynnes ac yn groesawgar, ac yn seiliedig ar brofiadau teuluoedd go iawn.