Busnes teuluol o Fôn yn pryderu am eu dyfodol oherwydd problemau pontydd a phorthladd

Berwyn

Mae perchennog cwmni cludo amaethyddol ar Ynys Môn wedi rhybuddio bod cyfuniad o’r aflonyddwch diweddar ym Mhorthladd Caergybi a’r problemau parhaus gyda Phont Menai yn peri pwysau digynsail ar ei fusnes teuluol.

Dywedodd y perchennog, Berwyn Griffiths, sydd wedi bod yn cludo da byw, a chyfarpar amaethyddol ledled Cymru, Lloegr ac Iwerddon ers blynyddoedd, fod yr oedi sydd wedi ei achosi gan y problemau wedi golygu methu amserlenni dosbarthu, colli archebion a chynnydd sylweddol mewn costau gweithredu.

Sefydlwyd y cwmni gan ei ddiweddar dad ddegawdau'n ôl, ac mae bellach yn cyflogi nifer o yrwyr lleol.

“Mae’n dorcalonnus gweld y busnes roedd fy nhad wedi gweithio mor galed i’w adeiladu yn wynebu cymaint o ansicrwydd,” meddai.

“Mae’r busnes yma wedi’i adeiladu dros flynyddoedd ar enw da, dibynadwyedd a chadw ein gair. Ond pan fydd ffyrdd yn cau neu’r porthladd’n methu gweithredu’n normal, does dim byd y gallwn ni ei wneud. Mae’r cwsmer yn gweld lori sy’n hwyr, ond dydyn nhw ddim yn gweld yr oriau rydym wedi’u colli yn sownd mewn traffig.”

Image
berwyn

Dywedodd fod y problemau ym Mhorthladd Caergybi wedi effeithio’n arbennig ar gludiant i ac o Iwerddon, gyda llwythi’n cael eu gohirio am oriau, ac weithiau ddyddiau.

Ar yr un pryd, meddai fod y cyfyngiadau a’r trafferthion rheolaidd ar Bont Grog y Fenai wedi ychwanegu milltiroedd ac amser at bron pob taith.

“Mae pob munud yn cyfrif yn y diwydiant yma," meddai.

"Pan rydych chi’n gweithio gyda ffermwyr, proseswyr bwyd neu gludiant byw, mae amser yn hollbwysig. Mae colli slot dosbarthu yn gallu cael effaith domino ar weddill y dydd.”

Ychwanegodd fod cost tanwydd, cyflogau ac oriau ychwanegol i yrwyr wedi cynyddu’n sylweddol oherwydd yr oedi.

“Mae’r costau’n mynd i fyny bron bob wythnos, ond allwn ni ddim pasio’r cyfan ymlaen at ein cwsmeriaid. Mae llawer ohonyn nhw’n ffermwyr sydd eisoes dan bwysau ariannol enfawr eu hunain.”

Mae’n galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i sicrhau bod cysylltiadau trafnidiaeth strategol Ynys Môn yn cael eu trin fel blaenoriaeth genedlaethol.

“Dyw hyn ddim yn ymwneud â’n cwmni ni yn unig. Mae economi gyfan yr ynys yn dibynnu ar gysylltiadau dibynadwy. Os ydyn ni am weld busnesau lleol yn ffynnu, mae’n rhaid cael seilwaith sy’n gweithio. Ar hyn o bryd, mae’n teimlo bod busnesau fel ein un ni yn talu’r pris.”

Posibiliadau

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, fod y Llywodraeth yn edrych ar wytnwch y rhwydwaith drafnidiaeth gan gynnwys y croesfannau dros Afon Menai a’r M4 o amgylch Casnewydd yn y de.

Mewn datganiad yn y Senedd ar 9 Mehefin, dywedodd: "Wrth edrych ar y tymor hir, byddwn nawr yn dechrau edrych ar bosibiliadau manwl ar gyfer trydedd groesfan dros y Fenai, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud.

"Mae croesfannau'r Fenai a'r M4 yn dangos yr her ehangach o reoli seilwaith sy'n heneiddio yn wyneb y galw cynyddol. 

"Yng ngogledd y wlad, rydym ni'n bwrw ymlaen â mesurau uniongyrchol a dewisiadau tymor hwy i gryfhau gwytnwch ar draws y Fenai, gan gynnwys ystyried dewisiadau manwl ar gyfer trydedd groesfan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.