Rhybudd am dywydd poeth iawn i redwyr Ras yr Wyddfa eleni
Mae trefnwyr Ras yr Wyddfa eleni wedi rhybuddio rhedwyr am dywydd poeth ddydd Sadwrn.
Mae Ras yr Wyddfa yn cael ei hystyried fel un o fawrion y byd rhedeg mynydd, gyda channoedd o redwyr o bob rhan o Ewrop yn teithio i Gymru i fod yn rhan o'r ras 10 milltir ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Dywedodd Tîm Ras yr Wyddfa bod angen i redwyr gario digon o ddŵr gyda nhw ac mai “chi sy'n gyfrifol am eich hydradiad a'ch lles eich hun”.
Bydd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn ar lwybr Llanberis, ynghyd â dros 50 o stiwardiaid ar hyd llwybr y ras i fyny ac i lawr, medden nhw.
“Bydd dŵr ar gael mewn nifer cyfyngedig o leoedd ar hyd y llwybr mynyddig, fel sydd wedi bod yn wir am y 49 mlynedd diwethaf, ond rhaid i chi beidio â dibynnu'n llwyr ar y cyflenwadau hyn,” medden nhw.
“Rhaid i bob rhedwr gario digon o ddŵr i ddiwallu eu hanghenion eu hunain drwy gydol y ras.”
Maen nhw’n annog y rhedwyr i:
- Sicrhau eu bod nhw wedi yfed digon cyn y ras.
- Cario digon o ddŵr gyda nhw.
- Yfed yn rheolaidd – a pheidio ag aros nes eu bod yn sychedig.
- Gwylio am arwyddion dadhydradiad a salwch gwres.
“Os byddwch yn dechrau teimlo'n sâl, yn benysgafn, yn ddryslyd, neu'n methu â pharhau'n ddiogel, stopiwch a thynnwch yn ôl o'r ras,” meddai’r trefnwyr.
“Does dim cywilydd gwneud y penderfyniad cywir. Bydd yr Wyddfa yno y flwyddyn nesaf ac rydych chi eisiau bod ar y llinell gychwyn.
“Byddwn yn gwneud popeth rhesymol o fewn ein gallu, ond ni allwn gymryd cyfrifoldeb am hydradiad unigolion na phenderfyniadau personol yn ystod y ras.”
Nid tywydd poeth yn unig sydd wedi effeithio ar Ras yr Wyddfa dros y blynyddoedd diwethaf, gyda ras 2023 yn cael ei chynnal ynghanol rhybudd tywydd garw am wyntoedd cryfion.
