Carchar i dwyllwr rhamantus wnaeth honni ei fod yn gyn-beilot hofrennydd rhyfel

David Griffiths o Malvern

Mae twyllwr rhamantus, a ddywedodd wrth ei ddioddefwyr ei fod yn Uwchgapten yn y Fyddin ac wedi cael ei saethu i lawr yn Affganistan, wedi cael ei garcharu am dair blynedd a hanner.

Plediodd David Griffiths o Malvern yn euog i ddau gyhuddiad o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug ar ôl twyllo dwy ddynes, y cyfarfu â nhw ar apiau canlyn, allan o fwy na £15,000.

Dywedodd y dyn 52 oed gelwyddau wrth ei ddioddefwyr am yrfa filwrol lwyddiannus a'i sefyllfa ariannol – gan gynnwys gwerthu tŷ yn Rhydychen a chyflog chwe ffigwr – gan eu perswadio i fenthyca arian neu drosglwyddo arian ar gyfer gwyliau ac eitemau na fydden nhw byth yn cael eu darparu.

Dywedodd wrth un o'i ddioddefwyr y byddai'n ad-dalu'r arian oedd yn ddyledus iddi ar gyfer gwyliau a gafodd ei ganslo, drwy gynnig gwyliau i Dubai, Bangkok a Phuket. 

Yn y cyfamser, perswadiodd y dioddefwr arall i roi £5,000 ar gyfer cyfle buddsoddi.

Dywedodd y swyddog goruchwylio, y Ditectif-sarjant Alistair Frame o Heddlu Gwent: “Nid colled ariannol yn unig yw twyll rhamantus. 

"Mae'n dor-ymddiriedaeth enfawr, ac yn gadael pobl yn cwestiynu popeth yr oeddent yn meddwl eu bod yn ei wybod.

"Mae twyllwyr rhamantus, fel David Griffiths, yn meddu ar allu i drin a thwyllo pobl, ac yn aml maent yn hynod argyhoeddiadol.

"Hoffem ddiolch i'r dioddefwyr am ddod ymlaen i roi gwybod am Griffiths, ac annog unrhyw un sy'n credu eu bod wedi dioddef twyll rhamantus i beidio â theimlo'n lletchwith nac yn gywilyddus, ond yn hytrach i roi gwybod amdano."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.