Dŵr Cymru yn debygol o gyflwyno gwaharddiad ar bibellau dyfrio mewn rhan o Gymru

Pibell ddwr / Prinder dwr / Gwaharddiad dwr

Mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio ei fod yn debygol o gyflwyno “gwaharddiad ar bibellau dyfrio” y penwythnos yma ar draws canolbarth a de Ceredigion, ynghyd â rhannau o ogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd y cwmni bod hynny “oni bai bod y galw eithriadol o uchel yn disgyn dros y dyddiau nesaf”.

Mae’r cwmni’n dweud “fod y cyfnod estynedig o dywydd poeth a sych wedi gyrru’r galw am ddŵr yfed i lefelau digynsail”.

Yn ôl y cwmni mae tua un biliwn litr o ddŵr yn cael eu rhoi i mewn i’r rhwydwaith cyflenwi pob dydd dros yr wythnos ddiwethaf - tua 20% yn fwy na’r disgwyl ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Dywedodd y cwmni fod yr ardal dan sylw yn cwmpasu rhyw 33,000 eiddo ac yn ymestyn o Lan-non, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, draw i Grymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Penfro, ac i mewn i rannau o ogledd Sir Gaerfyrddin i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon.

Dywedodd Prif Swyddog Cwsmeriaid Dŵr Cymru, Kit Wilson: “Mae ein timau wedi bod yn gweithio rownd y cloc ers sawl wythnos er mwyn cadw’r dŵr yn llifo trwy gynyddu cynhyrchiant, symud dŵr o gwmpas ein rhwydwaith, defnyddio ein fflyd o danceri, a thrwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl. Rydyn ni eisoes yn defnyddio pob mesur gweithredol sydd ar gael i ni i gynnal cyflenwadau.

“Dros yr wythnos ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn rhoi mwy nag un biliwn litr o ddŵr yfed i mewn i’r rhwydwaith cyflenwi bob dydd - tua 20% yn fwy na’r disgwyl ar yr adeg hon o’r flwyddyn. 

"Mae ein cronfeydd dŵr yn dal i fod mewn sefyllfa digon iach, ond yr her yw trin a symud digon o ddŵr trwy’r rhwydwaith yn ddigon cyflym i gadw i fyny â’r lefelau digynsail o uchel ac estynedig o alw.

“Nawr, rydyn ni’n cyrraedd pwynt lle, oni bai bod y galw’n disgyn yn sylweddol dros y dyddiau nesaf, ein bod ni’n annhebygol o fod ag unrhyw opsiwn ond cyflwyno cyfyngiadau dros dro ar bibellau dyfrio’r penwythnos yma er mwyn helpu i amddiffyn cyflenwadau dŵr hanfodol a lleihau’r risg bod cwsmeriaid yn wynebu pwysedd dŵr isel neu doriadau yn eu cyflenwadau.

“Nid yw hwn yn benderfyniad rydyn ni am ei wneud, ond rhaid i ni weithredu er budd ein holl gwsmeriaid. 

"Mae yna gyfle o hyd i osgoi’r cyfyngiadau hyn os bydd pawb yn chwarae eu rhan trwy leihau defnydd nad yw’n hanfodol nawr. 

"Bydd pob litr a arbedir yn ein helpu ni i gadw’r tapiau’n llifo mewn cartrefi, busnesau a gwasanaethau hanfodol ar draws yr ardal o dan sylw.”

'Gwytnwch'

Mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i:

  • Osgoi defnyddio pibellau dyfrio lle bynnag y bo modd.
  • Gohirio golchi ceir, patios a dreifiau.
  • Defnyddio can dyfrio yn lle pibell i ddyfrio’r ardd.
  • Cael cawodydd byrrach.
  • Cau’r tap wrth frwsio dannedd neu siafio.
  • Peidio â chynnau peiriannau golchi dillad a llestri nes bod llwyth llawn.
  • Trwsio tapiau sy’n diferu os oes modd.

Dywedodd y cwmni fe fyddan nhw’n parhau i fonitro’r galw am ddŵr ac amodau’r tywydd yn ofalus. 

Fe fydd penderfyniad terfynol a ddylid cyflwyno cyfyngiadau dros dro yn cael ei wneud yn ddiweddarach yn yr wythnos “yn seiliedig ar y galw am ddŵr a gwytnwch y rhwydwaith lleol”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.