Cwest: Hyfforddwr rygbi 'uchel ei barch' o Iwerddon wedi marw ger Beddgelert yng Ngwynedd

Philip 'Goose' Doyle.

Mae agoriad cwest wedi clywed mai hyfforddwr rygbi "uchel ei barch" o Iwerddon wnaeth farw mewn gwrthdrawiad ger Beddgelert yng Ngwynedd fis diwethaf.

Roedd Philip 'Goose' Doyle, 61 oed, wedi marw yn y fan a'r lle ar ôl gwrthdrawiad beic modur ar y ffordd rhwng Nantmor a Nant Gwynant ar 25 Mehefin.

Yn byw yn Wexford yn ne-ddwyrain Iwerddon, roedd Philip Doyle yn gyn-brif hyfforddwr tîm rygbi menywod Iwerddon.

Enillodd y Gamp Lawn yn y Chwe Gwlad yn 2013, ac fe orffennodd Iwerddon yn y pedwerydd safle yng Nghwpan y Byd flwyddyn yn ddiweddarach.

Roedd hefyd yn brif hyfforddwr yr Alban rhwng 2019 a 2020.

Wrth agor y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher, dywedodd uwch grwner gogledd-orllewin Cymru, Kate Robertson, fod aelod o'r cyhoedd wedi dod o hyd i Mr Doyle.

"Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw yn y fan a'r lle," meddai.

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.

'Cymeriad arbennig'

Mewn teyrnged iddo, dywedodd clwb rygbi Ulster fod Philip Doyle yn hyfforddwr "uchel ei barch".

"Yn eiriolwr (advocate) dros y gêm menywod, roedd Philip wedi arwain tîm menywod Iwerddon i Gamp Lawn hanesyddol yn 2013 a rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn 2014," medden nhw.

"Roedd hefyd wedi hyfforddi menywod Ulster yn 2015 a 2016, gan adael effaith hirdymor ar y chwaraewyr a phawb oedd wedi cael y fraint o weithio gydag ef."

Dywedodd capten yr Alban, Rachel Malcolm, fod Philip Doyle wedi cael "effaith fawr" ar yrfaoedd sawl chwaraewr.

"Roedd Goose wir yn un o gymeriadau arbennig rygbi," meddai.

"Fe ddaeth â rhywbeth hollol wahanol i dîm menywod yr Alban, ac fe gafodd effaith fawr ar gymaint o'n gyrfaoedd.

"Byddaf yn ddiolchgar iddo am byth am roi ei ffydd ynof fel capten y tîm am y tro cyntaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.