Llywodraeth Cymru yn sefydlu awdurdod darlledu ‘fel cam cyntaf i ddatganoli pwerau’
Mae gweinidog diwylliant Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn sefydlu awdurdod darlledu fel “cam cyntaf i bwyso am ddatganoli pwerau dros ddarlledu” i Gymru.
Bydd £45,000 yn mynd at ariannu gweithgarwch sefydlu yr Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol yn y flwyddyn ariannol hon, meddai Heledd Fychan.
Dywedodd ei bod yn ymateb i dystiolaeth “nad yw fframwaith darlledu ledled y DU yn addas ar gyfer realiti'r gwledydd sy'n gweithredu ar sail ddatganoledig”.
“Y cynlluniau hyn yw'r cam cyntaf i bwyso am ddatganoli pwerau dros ddarlledu, i gryfhau cyfryngau Cymru ac i roi llais i Gymru mewn materion darlledu a chyfathrebu,” meddai.
Ychwanegodd: “Nid Llywodraeth Cymru yn unig sy'n codi ei llais. Rydym wedi clywed sefydliadau fel y Sefydliad Materion Cymreig a gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn galw am lais cryfach i Gymru ar faterion darlledu a chyfathrebu.”
Dywedodd y bydd Gweithgor Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol yn cael ei sefydlu fel cam cyntaf.
“Bydd y Gweithgor yn rhoi cyngor i mi ar sut y bwriedir i'r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru weithredu,” meddai.
“Mae hyn yn cynnwys cyngor ac argymhellion ar ei strwythur, ei statws, ei gylch gorchwyl, a'i weithgarwch ymchwil ac ymgysylltu.”
Bydd ymgyrch i recriwtio aelodau i'r Gweithgor yn cael ei lansio ym mis Medi, meddai, gyda’r bwriad i'r Gweithgor gynnal ei gyfarfod cyntaf ar ddechrau 2027.
Cyhoeddir cylch gorchwyl ac enwau a bywgraffiadau'r aelodau ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Byddaf yn dilyn arweiniad yr aelodau arbenigol ar raglen waith y Gweithgor, ond rwy'n disgwyl cael argymhellion ar gynlluniau manwl ar gyfer sefydlu'r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru ar ddechrau 2028,” meddai.
“Ar ôl derbyn y cyngor hwnnw, byddaf yn gwneud datganiad ffurfiol yn ystod gwanwyn 2028 i gadarnhau'r trefniadau y byddaf wedi cytuno arnynt ar gyfer Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru yn y dyfodol.”