Chwech o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi gwario gormod ‘er gwaethaf cynnydd parhaol mewn cyllid’
Mae chwech o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi torri eu dyletswydd i beidio gwario gormod dros gyfnod o dair blynedd, meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dywedodd Adrian Crompton bod Gwanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn ei chael hi’n anodd rheoli costau o ddydd i ddydd “er gwaethaf cynnydd parhaus mewn cyllid”.
Dim ond Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg oedd wedi llwyddo i fantoli (break even) ei gyllideb dros gyfnod o dair blynedd.
Mae hynny’n golygu bod byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Hywel Dda, Caerdydd a'r Fro, Bae Abertawe, Powys ac Aneurin Bevan wedi methu â gwneud hynny.
Roedd methu â chyflawni'r ddyletswydd hon yn golygu eu bod wedi gwario mwy nad yr oedd ganddynt yr awdurdod i’w wario, meddai’r Archwilydd Cyffredinol.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton mai’r “darlun a gafwyd gan y cyfrifon hynny yw pwysau ariannol ar y GIG nad yw'n cael ei reoli, heb sôn am ei wrthdroi”.
“Mae hynny wedi bod yn batrwm parhaus yn ystod fy nhymor wyth mlynedd, wedi'i waethygu gan effeithiau pandemig COVID-19 a'r galw cynyddol,” meddai.
Roedd hynny er i GIG Cymru dderbyn £12.39 biliwn o gyllid refeniw yn 2025-26, cynnydd o £823 miliwn ar 2024-25 a thua £2.63 biliwn yn fwy nag yn 2021-22.
Roedd cyllid 2025-26 3.8% yn fwy mewn termau real nag yn 2024-25 wrth gyfrif am chwyddiant cyffredinol.
Yn 2025-26, diffyg blynyddol GIG Cymru oedd £199 miliwn. Roedd hynny'n £75 miliwn yn uwch nag yn 2024-25.
Cynyddodd y diffyg cronnol dros dair blynedd i £506 miliwn (o £457 miliwn yn 2024-25).
Fe ychwangodd Adrian Crompton: “Fel yr wyf wedi nodi yn flaenorol, mae hyn er i'r Senedd basio Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014, dros ddegawd yn ôl, i bennu’r dyletswyddau ariannol a chynllunio y disgwylir i gyrff y GIG eu bodloni.
“Ni fydd troi'r llanw ar wariant y GIG yn hawdd ond mae'n rhaid gwneud hynny.
“Ar gyfer y GIG, fel ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol, mae angen pwyslais llawer mwy craff a di-baid ar ddarparu gwerth am arian, ochr yn ochr â newid meddylfryd i un sy'n canolbwyntio ar atal a'r tymor hirach."
Mae Newyddion S4C wedi holi am ymateb Llywodraeth Cymru.