Rhun ap Iorwerth yn 'siomedig' ar ôl colli pleidlais dyngedfennol ar eu cynlluniau gwariant
Mae Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi beirniadu penderfyniad Llafur Cymru i bleidleisio yn erbyn cyllideb atodol ei lywodraeth, gan ddweud ei fod yn "siomedig".
Mewn cyfweliad â rhaglen Dros Frecwast, fe gyhuddodd Lafur o droi cefn ac "ochri efo Reform" wrth bleidleisio yn erbyn y cynlluniau gwariant.
Roedd Llafur a Phlaid Cymru wedi anghytuno ar gynnwys y gyllideb atodol, sef y gwario ychwanegol mae'r llywodraeth yn awyddus i'w wneud er mwyn bwrw ymlaen â'i blaenoriaethau dros y blynyddoedd nesaf.
Heb fwyafrif yn y Senedd, dyma oedd yr her fwyaf i'r llywodraeth newydd ers dod i rym ym mis Mai.
Methodd ymdrechion olaf y llywodraeth i geisio perswadio aelodau Llafur i gefnogi eu cynlluniau, gydag arweinydd Llafur Cymru, Ken Skates, yn dweud bod angen mwy o arian tuag at addysg anghenion ychwanegol ar unwaith.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cynnig pecyn gwerth £120 miliwn dros dair blynedd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, ond roedd Llafur yn mynnu £100 miliwn ar unwaith eleni.
Roedd y llywodraeth eisiau gwario mwy ar bethau fel rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd, gofal plant ac atgyweirio ysgolion.
Wrth ymateb i'r bleidlais, dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod wedi'i siomi gan benderfyniad Llafur.
"Heb oes mae 'na lawer iawn o bobl â siom yn y Blaid Lafur am y ffordd y gwnaethon nhw bleidleisio efo Reform," meddai ar raglen Dros Frecwast.
"Bydd yr olygfa honno o aelodau Reform yn curo ar eu byrddau, yn cymeradwyo Llafur yn olygfa fydd yn aros yn hir yn y cof ac yn chwerw i gefnogwyr Llafur.
"Mae'n siom bod y math o gydweithrediad sydd wedi gorfod bod yn nodwedd o ddatganoli dros y blynyddoedd, lle mae pleidiau blaengar yn gorfod ffeindio ffyrdd o weithio efo'i gilydd... Waeth bynnag ydi'r anghytuno, mae'n rhaid ffeindio ffordd ymlaen.
"Mae Llafur rŵan wedi penderfynu chwalu hynny, ochri efo Reform i roi mwyafrif i Reform yn erbyn cyllideb oedd yn flaengar."
Dywedodd y Prif Weinidog fod canlyniad y bleidlais yn golygu bod y Senedd wedi gwrthod cyllid ar gyfer ystod o flaenoriaethau'r llywodraeth.
"Be' sydd ganddo ni wrth gwrs ydi gwrthodiad o arian sylweddol ar gyfer yr NHS, arian cinio ysgol am ddim, arian ar gyfer gofal plant, teithio rhatach i bobl ifanc a'r £120 o filiynau 'ma ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, oedd yn becyn cynhwysfawr oedd wedi cael ei roi at ei gilydd," meddai.
"Mae gwrthod hynny yn arwydd o newid sylweddol sydd wedi bod o ran agweddau Llafur tuag at wleidyddiaeth flaengar."
Er gwaethaf y golled, dywedodd y byddai'r llywodraeth yn parhau i geisio sicrhau cytundebau gyda phleidiau eraill.
"Be' sy'n digwydd nesa ydi, nes ymlaen yn y flwyddyn, mae cyfle i roi cyllideb atodol ymlaen, ac mae honno wrth gwrs ar gyfnod lle 'da ni beth bynnag ar y cyfnod cydweithredol hwnnw yn gweithio efo eraill i weld lle mae 'na gytundeb ar gael cyllideb lawn ar gyfer y flwyddyn 2027/28," meddai.
"Mi fyddwn ni'n cadw at y gwerthoedd blaengar, progressive yna sydd wedi ein harwain at ein buddugoliaeth ni yn yr etholiad yn ddiweddar.
"Does yr un blaid erioed wedi cael mwyafrif yn hanes datganoli, mae hynny'n wir rŵan. Felly mae cydweithio'n gorfod digwydd.
"Ond pan mae 'na negodi, pan mae 'na gydweithio, mae o'n gorfod bod o fewn ffiniau'r hyn sydd yn fforddiadwy."
Fe wrthododd hefyd awgrymiadau fod Plaid Cymru wedi bod yn rhy hyderus y byddai cytundeb yn cael ei sicrhau.
"Mi oedd 'na drafod dwys iawn wedi mynd ymlaen yn yr wythnosau cynt," meddai.
"Ac wrth gwrs, dydi o ddim yn help pan mae'r partner 'da chi'n siarad efo nhw yn gofyn am un peth un diwrnod ac yn newid o'r diwrnod wedyn."
Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi cyflwyno cynnig "difrifol" ac y byddai'n parhau i lywodraethu mewn "ysbryd cydweithredol".
"Mae Llafur wedi parcio eu hunain ar bwynt lle maen nhw eisiau chwarae eu gwleidyddiaeth efo hyn, dyna ddigwyddodd ddoe," meddai.
"'Da ni'n gorfod symud ymlaen mewn ffordd gyfrifol tra'n gwahodd Llafur i gario mlaen i weithio efo ni ar hyn.
"Dyma sy'n gorfod digwydd mewn gwleidyddiaeth leiafrifol fel 'da ni wastad wedi'i chael yng Nghymru."
'Colli hyder y Senedd'
Mewn ymateb, dywedodd Dan Thomas AS, Arweinydd Reform UK Cymru: "Neithiwr, dywedodd y Senedd yr hyn y mae Reform UK wedi bod yn ei ddweud ers y diwrnod cyntaf: ni all Plaid Cymru lywodraethu'r wlad hon.
"Mae llywodraeth Rhun ap Iorwerth bellach wedi colli hyder y Senedd hon o ran ei gyllideb ei hun.
"Mae'n bryd iddo wrando ar bobl Cymru yn hytrach na rhoi darlithoedd iddynt."
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Lafur Cymru.