Bethel: Mam i bedwar yn chwilio am gartref newydd ar ôl colli 'bron popeth' mewn tân
Mae mam i bedwar o blant sydd wedi colli "bron popeth" mewn tân ym mhentref Bethel, ger Caernarfon, yn chwilio am gartref newydd.
Fe ddigwyddodd y tân brynhawn dydd Mawrth am 15:05.
Doedd neb wedi ei anafu, ond mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dweud bod yna ddifrod sylweddol i'r tŷ.
"Roedd 100% o ddifrod tân i'r llawr gwaelod a 100% o ddifrod mwg i'r llawr cyntaf," meddai llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân.
"Nid oedd unrhyw anafiadau. Mae’r achos wedi cael ei gofnodi fel un damweiniol."
Mae gan y fam ifanc bedwar o blant rhwng pedair a 13 oed, ac mae ymgyrch i godi arian ar gyfer y teulu wedi codi bron i £9,000.
Yn ôl Hannah Hughes, sy'n aelod o bwyllgor Menter Cymunedol Bethel, mae'r tŷ "i gyd wedi mynd".
"O fewn munudau, roedd y tân wedi mynd drwy'r tŷ i gyd, ffenestri'n chwythu allan, fflamau mawr a mwg du ym mhob man," meddai wrth Newyddion S4C.
"Chwarae teg, roedd y Gwasanaeth Tân yna o fewn munudau ac roeddan nhw'n gwneud gwaith gwych.
"Ond mae'r tŷ i gyd wedi mynd rili, does na'm byd ar ôl."
'Cymuned glòs'
Dywedodd Ms Hughes mai'r peth pwysicaf oedd nad oedd neb yn y tŷ pan ddechreuodd y tân.
"'Da ni jyst mor falch bod 'na neb yn y tŷ, achos fel arfer fysa plant hi wedi dod adra o'r ysgol, ond roeddan nhw wedi mynd i dŷ ffrindiau ddoe," meddai.
"Alla i ddim dychmygu be' maen nhw'n mynd drwy, mae'n torri calon rhywun."
Er gwaethaf y sioc, dywedodd fod ymateb y gymuned wedi bod yn arbennig.
"Mae pawb on a mission i gefnogi'r teulu," meddai.
"'Da ni yn gymuned glòs, ac mae'n neis gweld pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi.
"Ar adegau fel 'ma, ti angen cymuned mwy nag erioed, ac mi nawn ni be' 'da ni'n gallu."
Ychwanegodd fod Menter Gymunedol Bethel yn casglu rhoddion ac y gall pobl gefnogi'r teulu drwy gyfrannu at y dudalen GoFundMe.
"Dwi'n meddwl fydd o'n hwb gwybod bod 'na gefnogaeth tu ôl iddyn nhw a bo' ni yma i gefnogi nhw," meddai.
"Ac mi fydd yr arian yn mynd i brynu be' ma hi angen i ddechrau eto."