Marwolaeth Ann Widdecombe yn cael ei thrin fel 'gweithred derfysgol'

Llun: Reuters
Ann Widdecombe

Mae marwolaeth y gwleidydd Ann Widdecombe bellach yn cael ei thrin fel gweithred derfysgol, yn ôl yr heddlu.  

Cafodd y cyn-weinidog Ceidwadol ac yna llefarydd Reform UK, ei darganfod yn farw yn ei chartref yn Haytor, Dartmoor ddydd Iau diwethaf. 

Roedd ganddi anafiadau difrifol.  

Dros y Sul, cyhoeddodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw fod dyn gwyn Prydeinig 28 oed wedi ei arestio yn nhref Rotherham, Sir De Efrog ar amheuaeth o lofruddio’r cyn-AS a’r cyn-ASE. 

Mae Rotherham tua 270 milltir o gartref Ms Widdccombe yn Nyfnaint. 

Dywedodd yr heddlu bryd hynny nad oedd tystiolaeth wedi dod i’r amlwg i brofi unrhyw gymhelliad gwleidyddol. 

Bellach mae heddlu gwrth-derfysgaeth wedi ail-arestio'r dyn 28 oed ar amheuaeth o gomisiynu, paratoi neu gymell gweithredoedd terfysgol. 

Nhw bellach sy'n arwain yr ymchwiliad i farwolaeth Anne Widdecombe. .

Mae'r heddlu'n dweud fod gwybodaeth newydd a thystiolaeth wedi dod i'r amlwg yn ystod yr ymchwiliad.  

Dywedodd Pennaeth Heddlu Gwerth-Derfysgaeth, Laurence Taylor: “Wrth adeiladu ar y cynnydd gan ein cyd-weithwyr yn Heddlu Dyfnaint a Chernyw, mae gennym wybodaeth newydd a thystiolaeth sy'n golygu fod yr adran gwrth-derfygaeth bellach yn arwain yr ymchwiliad. 

“Rydym yn bwrw golwg ar sawl ongl yn ein hymchwiliad, er mwyn ceisio darganfod beth oedd achos yr ymosodiad hwn. 

“Ein blaenoriaeth yw bwrw ymlaen â'r ymchwiliad hwn yn gyflym, gyda'r holl anoddau sydd ar gael i ni. Os oes gan unrhyw un wybodaeth, rhannwch hynny gyda'r heddlu os gwelwch yn dda.  

“Hoffem ddiolch i'r gymuned yn lleol, y cyhoedd yn ehangach a'r cyfryngau am eu cefnogaeth barhaol a'u hamynedd, ac rydym yn awyddus i'r gefnogaeth honno barhau wrth i ni symud i gam nesaf yr ymchwiliad.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.