Cyhuddo llywodraeth Plaid Cymru o ‘ddilyn Lloegr’ ar ddyfarniad cyflog athrawon
Mae llywodraeth newydd Plaid Cymru wedi eu cyhuddo o “ddilyn Lloegr” drwy dalu llai i athrawon nag oedd wedi ei argymell gan gorff annibynnol.
Roedd Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru wedi awgrymu y dylid cynyddu cyflogau a lwfansau athrawon 4.25% o fis Medi 2026.
Dywedodd Anna Brychan AS, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ddydd Llun ei bod yn ymgynghori ar ddyfarniad cyflog o 3.5% i athrawon ac arweinwyr ysgolion.
Mae'n cyfateb i'r hyn y bydd athrawon Lloegr yn ei dderbyn.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ar gynnydd o 5% ar gyfer athrawon sydd heb gymhwyso.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Laura Doel bod y llywodraeth “wedi cefnu ar ddull sy’n cael ei arwain gan Gymru ac wedi dewis dilyn Lloegr”.
“Ar adeg pan fo ysgolion yn ei chael hi’n anodd recriwtio a chadw staff, mae gofyn i addysgwyr wneud mwy gyda llai, wrth wrthod argymhellion annibynnol ar gyflog, mae'n anfon y neges anghywir,” medden nhw.
Dywedodd Anna Brychan ei bod hi’n “ymwybodol o'r amgylchiadau ariannol anodd” sy'n effeithio ar ysgolion a cholegau, “a goblygiadau dyfarniadau cyflog heb eu hariannu i gyllidebau a niferoedd staff”.
Ond dywedodd nad oedd “argymhelliad y Corff Adolygu Cyflogau yn fforddiadwy o fewn y cyllidebau presennol”.
“Wrth ddod i'm penderfyniad, rwyf wedi gorfod cydbwyso'r gyllideb sydd ar gael â'r angen i gydnabod a gwobrwyo ein gweithlu,” meddai.
‘Argyfwng’
Dywedodd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru eu bod nhw wedi disgwyl i Lywodraeth Plaid Cymru ddefnyddio ei phwerau datganoledig a chyhoeddi dyfarniad cyflog wedi’i ariannu’n llawn.
“Rydym wedi rhybuddio Llywodraeth Cymru yn gyson ers sawl blwyddyn y byddai llawer o ysgolion yn cyrraedd pwynt argyfwng oni bai bod cyllid sylweddol uwch a pharhaus yn cael ei ddarparu iddynt,” medden nhw.
“Roeddem am groesawu’r dyfarniad hwn i athrawon, ond yn anffodus rydym yn gwybod y bydd y cynnydd cyflog hwn yn dod ar draul swyddi eraill ac adnoddau y mae gwir eu hangen mewn ysgolion.
“Ar adeg pan fo ein haelodau yn wynebu lefelau anghynaliadwy o lwyth gwaith wrth geisio ymateb i’r cynnydd yn anghenion cymhleth y dysgwyr maent yn eu haddysgu, rydym yn cefnogi’r galwadau am gynyddu’r cyllid sydd wedi’i neilltuo ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.
“Byddwn yn parhau i sefyll gyda’r undebau llafur addysg eraill i frwydro dros sicrhau hynny.”