Gorfod cau Pont y Borth unwaith eto wedi i gerbyd dros y terfyn pwysau ei chroesi
Mae Pont y Borth rhwng Gwynedd a Môn wedi gorfod cau unwaith eto ddydd Llun ar ôl i gerbyd a oedd dros y terfyn pwysau ei chroesi.
Dywedodd Traffig Cymru y bydd y bont ar gau tra bydd archwiliad yn cael ei gynnal.
“Byddwn yn ailagor y bont cyn gynted ag y bydd yn saff gwneud hynny,” medden nhw.
“Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra. Mae eich diogelwch yn hollbwysig. Hoffem eich atgoffa mai cerbydau sy’n pwyso llai na 7.5 tunnell yn unig sy’n cael croesi Pont y Borth.”
Bu’n rhaid i’r bont gau sawl gwaith ddiwedd mis Mai ar ôl i gerbydau a oedd dros y terfyn pwysau ei chroesi, gan gynnwys ddwywaith yn ystod Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn.
Cafodd goleuadau traffig dros dro eu gosod ar Bont y Borth am gyfnod yn ystod yr Eisteddfod er mwyn atal cerbydau rhy drwm rhag ei chroesi.
Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, ar ôl hynny fod y problemau yn “annerbyniol” a bod pobl Ynys Môn “wedi’u gadael i lawr yn rhy hir”.
Ar y pryd, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Mark Hooper, fod y cyfyngiadau diweddar wedi bod yn “hynod rwystredig”.
“Mae pobl Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru wedi cael eu siomi ers gormod o amser gan annibynadwyedd croesfannau’r Fenai,” meddai.
Dywedodd fod gwaith eisoes wedi dechrau o fewn y Llywodraeth i sicrhau mesurau tymor byr ac atebion tymor hir i gryfhau gwytnwch y croesfannau dros y Fenai.