Mab fferm sydd wedi ei goroni yn ganwr ifanc y byd yn rhoi clod i'w nain
Mae mab fferm o Sir Ddinbych sydd wedi ei goroni'n ganwr ifanc gorau yn y byd wedi rhoi'r clod i'w nain am ei gyflwyno i gerddoriaeth yn ifanc.
Fe ddaeth Dafydd Jones, sy'n 27 oed, i'r brig yn y gystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Fe gafodd y gŵr ifanc, sy'n dod o Lanrhaeadr ger Dinbych wobr ariannol o £3,000.
Un oedd yn ei wylio yn canu oedd ei nain, Brenda Jones. Hi wnaeth ei ddysgu i ganu pan oedd yn blentyn.
"Gallwn ddweud yn fuan iawn bod ganddo ddawn naturiol, ac wrth iddo dyfu’n hŷn doeddwn i ddim yn gallu rhoi'r holl hyfforddiant yr oedd ei angen arno, felly mi wnaethon ni ofyn i Brian Hughes, y cyfansoddwr a'r hyfforddwr lleisiol i fynd ag ef i'r cam nesaf. Unwaith y dechreuodd Brian ei hyfforddi, mi ddechreuodd wireddu ei botensial go iawn," meddai.
Roedd yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol i ddechrau ac Eisteddfod yr Urdd. Daeth i'r brig droeon yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, ac yn 2019, enillodd Wobr Goffa Osborne Roberts yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, yn Llanrwst.
Aeth Dafydd ati i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Ar ôl graddio gyda gradd meistr fe gafodd Tlws y Fam Frenhines.
Roedd yn rhaid i Dafydd guro bron i 30 o gantorion o bob cwr o'r byd er mwyn cyrraedd rownd derfynol Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine eleni.
Mae'r gystadleuaeth fawreddog yn un o brif ddigwyddiadau Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Mae'r cystadleuwyr yn wynebu proses ddethol heriol a chyfres o ragbrofion cyn y rownd derfynol fawr ar noson olaf yr ŵyl.
Ar gyfer y gystadleuaeth perfformiodd Dafydd dri darn – Vainement ma Bien Aimee gan Eduard Lalo; Der Soldat, gan Wolf, a Llanrwst gan Gareth Glyn.
"Rwy'n falch iawn o ennill, yn enwedig gan fod perfformiad Victoria mor gryf. Roeddwn i'n gwybod y byddai'r canlyniad yn agos.
"Rydw i mor ddiolchgar fy mod wedi cyrraedd y rownd derfynol ac mae cael teitl Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine ar fy CV yn hwb mawr i’m gyrfa.
"Rŵan fy mod i'n dechrau fel canwr llawrydd, mae angen i mi allu talu am deithiau awyren a chludiant i gyrraedd clyweliadau felly mae'r wobr o £3,000 yn help enfawr," meddai.
Dywedodd beirniaid cystadleuaeth Llais Rhyngwladol y Dyfodol Pendine, Sarah Tynan a Njabulo, fod gan Dafydd y potensial i ddod yn un o sêr mawr y llwyfan operatig.
Fe fydd Dafydd yn ymuno â chast yr opera mynegiannol Wozzeck yn Fflorens ar ôl iddo dreulio tair blynedd ym Munich fel aelod o'r Bayerische Staatsoper Opernstudio.
I'w nain roedd gweld ei hŵyr yn camu ar y llwyfan yn Eisteddfod Llangollen yn gwireddu breuddwyd.
"Ers blynyddoedd rydyn ni i gyd wedi bod yn dweud wrtho y dylai gystadlu yn yr eisteddfod ryngwladol ac yn awr mae o wedi ennill y brif wobr a chyflawni ein gobeithion. Am noson wych."
Llun: Rick Matthews
Dafydd Jones gyda'i daid a’i nain, John Henry Jones a Brenda Jones