Marwolaeth Gorseinon: Dyn 18 oed o flaen llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth
Mae dyn 18 oed wedi ymddangos o flaen llys wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 18 oed arall yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic yng Ngorseinon.
Mae Tyler Ford, o Dreforys, wedi’i gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans. Mae hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ail ddioddefwr.
Fe ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun, 13 Gorffennaf, a bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron ddydd Mawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Pen Cae Crwn tua 13.00 ddydd Iau, 9 Gorffennaf, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng car a beic oddi ar y ffordd, medden nhw.
Bu farw dyn 18 oed yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae dyn 19 oed yn parhau yn yr ysbyty.
Ceiran Evans, 18 oed, o Orseinon oedd enw'r dyn fu farw, meddai'r heddlu.
Mae ei deulu yn cael eu cefnogi a’u diweddaru gan swyddogion cyswllt teulu sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.