Cynghorwyr o Gaerdydd yn galw am wahardd parcio ar balmentydd ledled Cymru

Ceir wedi parcio ar y palmant ar Carmarthen Street, Treganna
Parcio ar Pafin

Mae dau gynghorydd yng Nghaerdydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd parcio ar balmentydd ledled y wlad.

Mae’r cynghorwyr Susan Elsmore a Rhys Taylor yn dweud bod cerbydau yn creu rhwystrau ar y palmentydd, yn gwneud strydoedd yn anniogel ac yn codi ofn ar bobl fregus.

Mae parcio ar balmentydd wedi’i wahardd yn Llundain a’r Alban.

Yng Nghymru, gall gyrwyr gael dirwy os yw cerbyd wedi’i barcio mewn man peryglus neu’n achosi rhwystr diangen, ond nid oes gwaharddiad cyffredinol ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Susan Elsmore, sy’n cynrychioli Treganna fel cynghorydd annibynnol: “Yma yn Carmarthen Street, mae ysgolion cynradd a meithrinfeydd o’n cwmpas, a llawer o rieni â bygis

“Mae yna hefyd bobl â phroblemau symudedd a phroblemau golwg.

“Mae ceir yn cael eu parcio ar balmentydd bob dydd yn yr ardal hon. Mae’n cael effaith sylweddol ar drigolion.

“Mae pobl yn dweud wrthyf eu bod yn rhwystredig oherwydd bod rhai mannau nad ydyn nhw’n gallu eu cyrraedd. Mae hyn yn cael effaith benodol ar bobl hŷn, ac mae rhai pobl hŷn wedi datblygu ofn o fynd allan.

“Rwyf am i Lywodraeth Cymru wahardd parcio ar balmentydd. Byddai’n gwneud bywydau trigolion Treganna, ac ar draws Cymru, gymaint yn well.”

Mae arolwg diweddar gan Living Streets, elusen sy’n ymgyrchu dros balmentydd mwy diogel, yn dangos fod naw o bob deg cynghorydd yng Nghymru wedi cael cwynion gan etholwyr am gerbydau wedi’u parcio ar balmentydd.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Mai y byddai awdurdodau lleol yn Lloegr yn cael rhagor o bwerau i fynd i’r afael â’r broblem.

Nid oes deddfwriaeth debyg wedi’i chyflwyno yn y Senedd.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Taylor, sy’n cynrychioli Gabalfa dros y Democratiaid Rhyddfrydol: “Mae parcio ar balmentydd yn gwneud cymunedau fel fy un i yn anniogel i bawb.

“Mae’n gwneud llwybrau i’r ysgol ac i’r gwaith yn llai diogel, yn gwthio cerddwyr i’r ffordd ac i draffig sy’n pasio, ac yn rhwystro golwg gyrwyr.

“Bydd mynd i’r afael â pharcio ar balmentydd yn gwneud ein cymunedau’n llefydd mwy diogel a dymunol i fyw, gweithio a chwarae.”

Effaith ar bobl fregus

Dywedodd Ruth Billingham, pennaeth ymgyrchoedd Living Streets, fod parcio ar balmentydd yn atal pobl mewn cadeiriau olwyn, pobl â chŵn tywys a rhieni â bygis hag defnyddio rhai palmentydd.

“Mae gan Lywodraeth newydd Cymru gyfle i weithredu yn erbyn parcio ar balmentydd ac osgoi cael ei gadael ar ôl yr Alban a Lloegr,” meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwybod bod parcio ar balmentydd yn broblem ledled Cymru, yn enwedig i bobl anabl, rhieni â chadeiriau gwthio a thrigolion hŷn.

“Mae’r llywodraeth hon yn blaenoriaethu galluogi ac annog mwy o bobl i wneud teithiau bob dydd ar droed. 

"Mae parcio ar balmentydd yn groes i’r nod hwn, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i newid ymddygiad gyrwyr, wedi’i gefnogi gan orfodi mewn modd effeithiol.

“Rydym wrthi’n ystyried y ffordd orau o roi’r pwerau sydd eu hangen i awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r broblem.”

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod wedi lansio cynllun parcio newydd er mwyn rheoli parcio ar draws y ddinas.

Bydd parthau parcio dynodedig yn cael eu cyflwyno, gyda cherbydau’n gorfod cael eu parcio’n gywir mewn mannau dynodedig pan fydd y parthau’n cael eu gorfodi.

Dywedodd y cyngor fod tystiolaeth o ardaloedd lle mae’r parthau eisoes wedi’u cyflwyno yn dangos gwelliant amlwg yn y sefyllfa parcio.

Gall cerbydau sydd wedi’u parcio’n anghyfrifol yn y parthau gael hysbysiad tâl cosb

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.