Ceredigion: Pryder y bydd lleihau nifer y cynghorwyr cymuned a thref yn ergyd i ddemocratiaeth leol
Ceredigion: Pryder y bydd lleihau nifer y cynghorwyr cymuned a thref yn ergyd i ddemocratiaeth leol
Mae yna bryder yng Ngheredigion y bydd lleihau nifer y cynghorwyr cymuned a thref yn y sir yn ergyd i ddemocratiaeth leol.
Cadarnhaodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru y bydd 174 yn llai o gynghorwyr tref a chymuned yng Ngheredigion o fis Mai 2027.
Fe alwodd Heledd Gwyndaf o Gyngor Cymuned Llandysiliogogo ar Weinidog y Cabinet, Siân Gwenllian, i ddirymu’r penderfyniad ac atal y newidiadau.
Mae'r Comisiwn yn dweud bod y newid yn "adlewyrchu nifer gwirioneddol y cynghorwyr ar draws cymunedau Ceredigion yn well" oherwydd bod dros 160 o seddi gwag ar ôl yr etholiad diwethaf.
Mae disgwyl i bob Cyngor Sir adolygu trefniadau cymunedol ac etholiadol ar gyfer cymunedau bob 10 mlynedd, ac fe gafodd y gwaith hwnnw ei gwblhau ar ran Cyngor Ceredigion gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Cafodd yr adroddiad a’r argymhellion eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2024, ac fe gafodd y newidiadau eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 6 Mai eleni.
Dyma'r ad-drefnu mwyaf o ran cynghorau tref a chymuned yng Ngheredigion ers degawdau. Fe fydd y newid yn effeithio ar 50 o'r 51 o gynghorau cymuned a thref, gyda nifer ohonyn nhw’n uno i greu wardiau newydd, a nifer y cynghorwyr yn lleihau o 540 i 366, sef gostyngiad o 174.
Fe fydd rhai o drefi mwyaf Ceredigion yn gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y cynghorwyr:
Aberteifi 14 i 10
Aberaeron 12 i 8
Llanbedr Pont Steffan 15 i 10
Aberystwyth 19 i 18
Tregaron 11 i 8
Cei Newydd a Llanwchaearn 17 i 11
'Llawer iawn o bryderon'
Yn ystod ymgynghoriad ar yr argymhellion drafft, fe godwyd pryderon gan 235 o'r 236 a wnaeth ymateb.
Un sy’n bryderus am y newidiadau yw Heledd Gwyndaf, aelod o Gyngor Cymuned Llandysiliogogo.
Mi fydd ei chyngor hi yn uno â Chyngor Cymuned Troedyraur, ac mi fydd yna ostyngiad hefyd yn nifer y cynghorwyr yn y ddwy ardal, o 22 i 8.
"Mae yna lawer iawn o bryderon," meddai. "Mae yna adnabyddiaeth o'n hardaloedd.
"Dw i ddim mor gyfarwydd ag ardal Troedyraur. Mae llai ohonyn ni yn mynd i wneud y gwaith. Mae yna lai o bennau yn mynd i fod rownd y bwrdd.
"Mae'r ardal yn mynd i gynyddu a'r nifer o gynghorwyr yn mynd i gwtogi. Mae'r adnoddau a'r cyfoeth o bobl a'r profiadau ac adnabyddiaeth byddwn ni yn colli yn enfawr.
"Mae hyn yn fygythiad i'n pobl ni ac i ddemocratiaeth yn gyffredinol. S'dim dwywaith bydd yn lleihau llais democrataidd pobl yng Ngheredigion. Ni'n gwneud popeth yn wirfoddol."
Dywedodd Heledd Gwyndaf fod ganddi "bryderon mawr" am yr hyn oedd wedi digwydd yn ystod y broses.
"Dw i yn meddwl bod eisiau edrych mewn i sawl cam o'r broses. Mi wnaeth dros 230 o bobl, boed nhw yn unigolion neu yn gynghorwyr sir, ymwrthod a'r argymhellion. Dim ond 1 yn unig oedd yn cytuno. Cafon nhw ddim eu hystyried o gwbl. Maen nhw wedi bwrw mlaen heb wrando ar y bobl"
Mae hi'n galw ar Weinidog newydd y Cabinet, Siân Gwenllian, i "ad-alw a dirymu'r gorchymyn" ac i gynnal ymchwiliad.
Hyd yn hyn, mae Siân Gwenllian wedi penderfynu peidio ag ymyrryd â’r penderfyniad gwreiddiol a gafodd ei wneud ym mis Mai.
Yn Nhregaron, fe fydd nifer y cynghorwyr tref yn lleihau o 11 i 8.
Mae Catherine Hughes yn ildio'r awennau ar ôl dros ugain mlynedd fel cynghorydd tref, ac mae hi wedi disgrifio’r penderfyniad fel un sy’n peri pryder.
"O ran Tregaron, ni'n mynd i golli tri. Lawr o 11 i 8. Pwy fydd yn moyn sefyll yn yr etholiad newydd, oherwydd mae pwyse gwaith wedi mynd lawr yn drwmach dros y blynyddoedd diwethaf. Mae fe'n bwysig bod mewnbwn gan bobl lleol i beth sydd yn digwydd yn eu cymuned nhw. Dw i yn rhagweld y bydd mwy o lefydd gwag i ddweud y gwir. Dw i ddim yn meddwl bod angen torri nol ar lawr gwlad. Os gollwn ni beth sydd gyda ni ar lawr gwlad, wedyn dw i ddim yn gwybod beth sydd yn mynd i ddigwydd i'n cymunedau ni."
Doedd neb ar gael i wneud cyfweliad ar ran Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Dywedodd llefarydd: "Roedd y Comisiwn yn falch o’r cyfle i ddiweddaru ffiniau cymunedau yng Ngheredigion fel eu bod yn adlewyrchu eu hardaloedd yn well.
"Dyma’r arolwg cyntaf ers amser hir iawn felly roedd llawer o welliannau i’w gwneud i ffiniau ar draws y sir.
"Y cyngor sir sy’n penderfynu ar y polisi ar faint o gynghorwyr y dylai cymuned eu cael, nid y Comisiwn. Yn yr achos hwn, argymhellodd y Comisiwn leihau nifer y seddi ar draws y sir o 174, yn unol â pholisi maint cynghorau Ceredigion.
“Yn y set ddiwethaf o etholiadau lleol, gadawyd 162 o seddi’n wag yng nghymunedau Ceredigion gan nad oedd digon o ymgeiswyr, felly byddai’r gostyngiad mewn termau real yn nifer y cynghorwyr tua 12, gan dybio y byddai nifer tebyg yn sefyll yr etholiad yn 2027.
“Mae’r nifer llai o seddi yn adlewyrchu nifer gwirioneddol y cynghorwyr ar draws cymunedau Ceredigion yn well. Yn hollbwysig, mae hefyd yn cryfhau democratiaeth ar draws Ceredigion trwy wneud etholiadau yn fwy tebygol.
Yn ôl y Comisiwn, ei gwaith yw paratoi argymhellion tra mater i lywodraeth Cymru yw gwneud penderfyniadau.
Dywedodd Heledd Gwyndaf bod cynghorwyr yn cael eu "cyfethol" os oedd seddi gwag a bod hyn yn "ran bwysig iawn o'r broses ddemocrataidd," a nad oedd y ffigwr o 162 o seddi gwag yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfredol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y newidiadau yn dilyn "proses adolygu drylwyr" gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru a taw'r nod oedd sicrhau bod gan gymunedau ledled Ceredigion "gynrychiolaeth ddemocrataidd deg a chyfartal."
Yn ôl Cyngor Ceredigion maen nhw yn "gwerthfawrogi'r rol bwysig y mae cynghorau tref a chymuned yn ei chwarae" wrth gynrychioli cymunedau lleol."
Ymateb rhai o'r cynghorau cymuned i'r ymgynghoriad
Dywedodd Cyngor Cymuned Beulah y byddai cwtogi'r nifer o gynghorwyr yn "rhoi pwysau ychwanegol ar gynghorwyr unigol."
Wrth ymateb, dywedodd Cyngor Tref Tregaron ei bod yn "gwrthwynebu'n gryf yr argymhelliad" i gwtogi'r nifer o gynghorwyr.
Yn ol Cyngor Cymuned y Ferwig, "fe fydd llai am fod yn gynghorwyr" wrth gwtogi niferoedd.
Dywedodd Cyngor cymuned Ysbyty Ystwyth y bydd "llai o gynrychiolaeth gymunedol, hunaniaeth yn cael ei cholli, a lleisiau yn mynd ar goll."
Cyngor Cymuned Penbryn "Oni bydd y baich ar gyn lleied o Gynghorwyr yn aruthrol? A fydd darpar gynghorwyr yn dymuno ysgwyddo’r holl gyfrifoldebau beichus yn y dyfodol? Pwy fydd yn dymuno bod yn gynghorwr cymuned yn y dyfodol?